Tudalen:Telynegion Maes a Mor.djvu/33

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

GOBAITH.

"LLONNAF o'r engyl wyt ti," medd Duw —
"Dos i ddiddanu calonnau briw."

Ac yntau Gobaith, mor wyn a'r wawr,
I Seren Ofnau a ddaeth i lawr.

Efe sy'n canu goruwch y crud,
Holl hwian gerddi melys y byd.

Mwyn ei addewid yn nhrallod dyn —
Oni ddwg hanner bob croes ei hun?

Erys yn olaf gerllaw yr Yw
I sychu'r deigr uwch blodau gwyw.

Ni ddaw ymhellach na phorth y Nef —
Gweini'n y byd yw ei nefoedd ef.