Tudalen:Telynegion Maes a Mor.djvu/43

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

CARTRE'R HAF YW DEFFROBANI.

CARTRE'R haf yw Deffrobani,
O na ddeuit, Men,
Gyda mi i chwilio amdani
Yn fy rhwyflong wen
Hunt i fôr y mae yr ynys,
Hwnt i lawer tir;
Ond gwnâi serch y siwrnai'n felys,
Er yn siwrnai hir.

Gardd y byd yw Deffrobani,
Wennaf Ynys Wen;
Tyr y wawr yn ei ffenestri,
Cod dy angor, Men:
Oni hoffet fyw ar ddiliau
Gwell na breuddwyd bardd
Cysgu ar welyau blodau,
Heb i neb wahardd

Glas yw daear Deffrobani,
Glasach yw ei nen;
Glas yw'r don sy'n curo arni—
O! na ddeuit Men
Caem fordwyo hyd y glannau
Tan oleuach sêr
Gydag awel yn yr hwyliau
Oddi ar lysiau pêr.