Tudalen:Telynegion Maes a Mor.djvu/67

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

IONAWR.

Wyt Ionawr yn oer,
A'th farrug yn wyn;
A pha beth a wnaethost
I ddŵr y llyn?
Mae iậr fach yr hesg
Yn cadw'n ei thy,
Heb le i fordwyo
Na throchi 'i phlu.

Wyt Ionawr yn oer,
A'th farrug yn wyn;
Ac nid oes uchedydd
Na grug ar fryn;
O liaws y lawnt
Ni welaf ond un,
O'r pridd wedi codi
Fel pe drwy 'i hun.

Wyt Ionawr yn oer,
A’th farrug yn wyn;
A sigli yr adar
O frig yr ynn;
Ni cheir. ar y coed.
Griafol fel bu —
Mae'r frongoch a'r fwyalch
O dŷ i dŷ.