Tudalen:Telynegion Maes a Mor.djvu/79

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Un ohonoch, adar cerdd,
Yw fy nghalon innau,
Pan y cwsg y glaswyrdd lwyn
Uwch ei fil cysgodau;
Pan fo wyneb môr a nef
Fel pe am y glasaf —
Gwae aderyn gân cyn pryd,
Gwae na chân Gorffennaf.

Oni wnaed y fro yn ardd
Heb yr un diffeithwch?
A phob gardd o fewn y fro'n
Wyllt —dir o brydferthwch?
Fel y gloyn, claf o serch
Yw fy nghalon innau;
Gwn pa beth yw cael fy nal
Yn nyrysni'r blodau.

Chwa Gorffennaf ddaw i'm ty
Yn y bore melys,
Gyda neithdar maes a môr
Ar ei lleithiog wefus;
Onid merch y môr a'r maes
Yw fy nghalon innau;
Câr fugeilio'r gwenith gwyn,
Câr gyfeillach tonnau.