Gwirwyd y dudalen hon
A! bu yn werth gan Fab y Dyn
Arafu ar Ei ffordd i'r groes
Uwchben blodeuyn wnaeth Ei Hun
I ddysgu gofal Duw i'w oes.
Mor flin yw ffrwd y Garreg Wen —
Ai onid yw ei murmur hi,
Ac oerni'r llyn o dan dy ben,
Yn torri dy freuddwydion di?
Mae ffenestr fechan gennyf fi,
A'i llygad gloyw tua'r de;
Mwyn yw yr awel arni hi,–
Pe mynnet, gallet newid lle.
Na, yn fy nhŷ ni allet fyw
Heb oerni'r llyn o dan dy ben;
Hiraethet hyd nes troi yn wyw
Am furmur ffrwd y Garreg Wen.