dy wyneb, yr hwn a barottoa dy ffordd o'th flaen.
28 Canys meddaf i chwi, Ym mhlith y rhai a aned o wragedd, nid oes brophwyd mwy nag Ioan Fedyddiwr: eithr yr hwn sydd leiaf yn nheyrnas Dduw, sydd fwy nag ef.
29 A'r holl bobl a'r oedd yn gwrandaw, a'r publicanod, a gyfiawnhasant Dduw, gwedi eu bedyddio â bedydd Ioan.
30 Eithr y Phariseaid a'r cyfreithwyr yn eu herbyn eu hunain a ddiystyrasant gynghor Duw, heb eu bedyddio ganddo.
31 ¶ A dywedodd yr Arglwydd, I bwy gan hynny y cyffelybaf ddynion y genhedlaeth hon? ac i ba beth y maent yn debyg ?
32 Tebyg ydynt i blant yn eistedd yn y farchnad, ac yn llefain wrth eu gilydd, ac yn dywedyd, Canasom bibau i chwi, ac ni ddawnsiasoch; cwynfanasom i chwi, ac nid wylasoch.
33 Canys daeth Ioan Fedyddiwr heb na bwytta bara, nac yfed gwin; a chwi a ddywedwch, Y mae cythraul ganddo.
34 Daeth Mab y dyn yn bwytta ac yn yfed; ac yr ydych yn dywedyd, Wele ddyn glwth, ac yfwr gwin, cyfaill publicanod a phechaduriaid.
35 A doethineb a gyfiawnhâwyd gan bawb o'i phlant.
36 ¶ Ac un o'r Phariseaid a ddymunodd arno fwytta gyd âg ef: ac yntau a aeth i dŷ y Pharisead, ac a eisteddodd i fwytta.
37 Ac wele, gwraig yn y ddinas, yr hon oedd bechadures, pan wybu hi fod yr Iesu yn eistedd ar y bwrdd yn nhŷ y Pharisead, a ddug flwch o ennaint:
38 A chan sefyll wrth ei draed ef o'r tu ol, ac wylo, hi a ddechreuodd olchi ei draed ef â dagrau, ac a'u sychodd â gwallt ei phen: a hi a gusanodd ei draed ef, ac a'u hirodd â'r ennaint.
39 A phan welodd y Pharisead, yr hwn a'i gwahoddasai, efe a ddywedodd ynddo ei hun, gan ddywedyd, Pe bai hwn brophwyd, efe a wybuasai pwy, a pha fath wraig yw yr hon sydd yn cyffwrdd âg ef: canys pechadures yw hi.
40 A'r Iesu gan atteb a ddywedodd wrtho, Simon, y mae gennyf beth i'w ddywedyd wrthyt. Yntau a ddywedodd, Athraw, dywed.
41 Dau ddyledwr oedd i'r un echwynwr: y naill oedd arno bùm càn ceiniog o ddyled, a'r llall ddeg a deugain.
42 A phryd nad oedd ganddynt ddim i dalu, efe a faddeuodd iddynt ill dau. Dywed gan hynny, pwy o'r rhai hyn a'i câr ef yn fwyaf?
43 A Simon a attebodd ac a ddywedodd, Yr wyf fi yn tybied mai yr hwn y maddeuodd efe iddo fwyaf. Yntau a ddywedodd wrtho, Uniawn y bernaist.
44 Ac efe a drodd at y wraig, ac a ddywedodd wrth Simon, A weli di y wraig hon? mi a ddeuthum i'th dŷ di, ac ni roddaist i mi ddwfr i'm traed: ond hon a olchodd fy nhraed â dagrau, ac a'u sychodd â gwallt ei phen.
45 Ni roddaist i mi gusan: ond hon, er pan ddeuthum i mewn, ni pheidiodd â chusanu fy nhraed.
46 Fy mhen âg olew nid iraist: ond hon a irodd fy nhraed âg ennaint.
47 O herwydd paham y dywedaf wrthyt, Maddeuwyd ei haml bechodau hi; oblegid hi a garodd yn fawr: ond y