Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Testament Newydd (1894).djvu/111

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

14 Canys yr oeddynt ynghylch pùm mil o wŷr. Ac efe a ddywedodd wrth ei ddisgyblion, Gwnewch iddynt eistedd yn fyrddeidiau, bob yn ddeg a deugain.

15 Ac felly y gwnaethant; a hwy a wnaethant iddynt oll eistedd.

16 Ac efe a gymmerodd y pùm torth, a'r ddau bysgodyn, ac a edrychodd i fynu i'r nef, ac a'u bendithiodd hwynt, ac a'u torrodd, ac a'u rhoddodd i'r disgyblion i'w gosod ger bron y bobl.

17 A hwynt-hwy oll a fwyttasant, ac a gawsant ddigon: a chyfodwyd a weddillasai iddynt o friw-fwyd, ddeuddeg basgedaid.

18 ¶ Bu hefyd, fel yr oedd efe yn gweddio ei hunan, fod ei ddisgyblion gyd âg ef: ac efe a ofynodd iddynt, gan ddywedyd, Pwy y mae y bobl yn dywedyd fy mod i?"

19 Hwythau gan atteb a ddywedasant, Ioan Fedyddiwr; ond eraill, mai Elias; ac eraill, mai rhyw brophwyd o'r rhai gynt a adgyfododd.

20 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Ond pwy yr ydych chwi yn dywedyd fy mod i? A Phetr gan atteb a ddywedodd, Crist Duw.

21 Ac efe a roes orchymyn arnynt, ac a archodd iddynt na ddywedent hynny i neb;

22 Gan ddywedyd, Mae yn rhaid i Fab y dyn oddef llawer, a'i wrthod gan yr henuriaid, a'r arch-offeiriaid, a'r ysgrifenyddion, a'i ladd, a'r trydydd dydd adgyfodi.

23 ¶ Ac efe a ddywedodd wrth bawb, Os ewyllysia neb ddyfod ar fy ol i, ymwaded âg ef ei hun, a choded ei groes beunydd, a dilyned fi.

24 Canys pwy bynnag a ewyllysio gadw ei einioes, a'i cyll; ond pwy bynnag a gollo ei einioes o'm hachos i, hwnnw a'i ceidw hi.

25 Canys pa lesâd i ddyn, er ennill yr holl fyd, a'i ddifetha ei hun, neu fod wedi ei golli?

26 Canys pwy bynnag fyddo cywilydd ganddo fi a'm geiriau, hwnnw fydd gywilydd gan Fab y dyn, pan ddelo yn ei ogoniant ei hun, a'r Tad, a'r angelion sanctaidd.

27 Eithr dywedaf i chwi yn wir, Y mae rhai o'r sawl sydd yn sefyll yma a'r ni archwaethant angau, hyd oni welont deyrnas Dduw.

28 ¶ A bu, ynghylch wyth niwrnod wedi y geiriau hyn, gymmeryd o hono ef Petr, ac Ioan, ac Iago, a myned i fynu i'r mynydd i weddïo.

29 Ac fel yr oedd efe yn gweddïo, gwedd ei wynebpryd ef a newidiwyd, a'i wisg oedd yn wèn ddisglaer.

30 Ac wele, dau wr a gyd-ymddiddanodd âg ef, y rhai oedd Moses ac Elias:

31 Y rhai a ymddangosasant mewn gogoniant, ac a ddywedasant am ei ymadawiad ef, yr hwn a gyflawnai efe yn Jerusalem.

32 A Phetr, a'r rhai oedd gyd âg ef, oeddynt wedi trymhâu gan gysgu: a phan ddihunasant, hwy a welsant ei ogoniant ef, a'r ddau wr y rhai oedd yn sefyll gyd âg ef.

33 A bu, a hwy yn ymadaw oddi wrtho ef, ddywedyd o Petr wrth yr Iesu, O Feistr, da yw i ni fod yma: a gwnawn dair pabell; un i ti, ac un i Moses, ac un i Elias: heb wybod beth yr oedd yn ei ddywedyd.

34 Ac fel yr oedd efe yn dywedyd hyn, daeth cwmmwl, ac a'u cysgododd hwynt: