Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Testament Newydd (1894).djvu/114

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

om yn y dydd hwnnw, nag i'r ddinas honno.

13 Gwae di, Chorazin! gwae di, Bethsaida canys pe gwnaethid yn Tyrus a Sidon y gweithredoedd nerthol a wnaethpwyd yn eich plith chwi, hwy a edifarhasent er ys talm, gan eistedd mewn sachlïan a lludw.

14 Eithr esmwythach fydd i Tyrus a Sidon yn y farn, nag i chwi. 15 A thithau, Capernaum, yr hon ddyrchafwyd hyd y nef, a dynnir i lawr hyd yn uffern.

16 Y neb sydd yn eich gwrandaw chwi, sydd yn fy ngwrandaw i; a'r neb sydd yn eich dirmygu chwi, sydd yn fy nirmygu i; a'r neb sydd yn fy nirmygu i, sydd yn dirmygu yr hwn a'm hanfonodd i.

17 ¶ A'r deg a thri ugain a ddychwelasant gyd â llawenydd, gan ddywedyd, Arglwydd, hyd yn nod y cythreuliaid a ddarostyngir i ni, yn dy enw di.

18 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Mi a welais Satan megis mellten, yn syrthio o'r nef.

19 Wele, yr ydwyf fi yn rhoddi i chwi awdurdod i sathru ar seirph ac ysgorpionau, ac ar holl gryfder y gelyn ac nid oes dim a wna ddim niwed i chwi.

20 Eithr yn hyn na lawenhêwch, fod yr ysprydion wedi eu darostwng ichwi; ond llawenhêwch yn hytrach, am fod eich enwau yn ysgrifenedig yn y nefoedd.

21 ¶ Yr awr honno yr Iesu a lawenychodd yn yr yspryd, ac a ddywedodd, Yr wyf yn diolch i ti, O Dad, Arglwydd nef a daear, am guddio o honot y pethau hyn oddi wrth y doethion a'r deallus, a'u datguddio o honot i rai bychain: yn wir, O Dad; oblegid felly y gwelid yn dda yn dy olwg di.

22 Pob peth a roddwyd i mi gan fy Nhad: ac ni ŵyr neb pwy yw y Mab, ond y Tad; na phwy yw y Tad, ond y Mab, a'r neb y mynno y Mab ei ddatguddio iddo.

23 ¶ Ac efe a drodd at ei ddisgyblion, ac a ddywedodd o'r neilldu, Gwyn fyd y llygaid sydd yn gweled y pethau yr ydych chwi yn eu gweled:

24 Canys yr wyf yn dywedyd i chwi, ewyllysio o lawer o brophwydi a brenhinoedd weled y pethau yr ydych chwi yn eu gweled, ac nis gwelsant; a chlywed y pethau yr ydych chwi yn eu clywed, ac nis clywsant.

25 ¶ Ac wele, rhyw gyfreithiwr a gododd, gan ei demtio ef, a dywedyd, Athraw, pa beth a wnaf i gael etifeddu bywyd tragywyddol?

26 Yntau a ddywedodd wrtho, Pa beth sydd ysgrifenedig yn y gyfraith? pa fodd y darlleni?

27 Ac efe gan atteb a ddywedodd, Ti a geri yr Arglwydd dy Dduw a'th holl galon, ac a'th holl enaid, ac â'th holl nerth, ac a'th holl feddwl; a'th gymmydog fel ti dy hun.

28 Yntau a ddywedodd wrtho, Ti a attebaist yn uniawn gwna hyn, a byw fyddi.

29 Eithr efe, yn ewyllysio ei gyfiawnhâu ei hun, a ddywedodd wrth. yr Iesu, A phwy yw fy nghymmydog?

30 A'r Iesu gan atteb a ddywedodd, Rhyw ddyn oedd yn myned i waered o Jerusalem i Jericho, ac a syrthiodd ym mysg lladron; y rhai wedi ei ddïosg ef, a'i archolli, a aeth-