Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Testament Newydd (1894).djvu/116

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gennyf ddim i'w ddodi ger ei fron ef:

7 Ac yntau oddi mewn a ettyb ac a ddywed, Na flina fi: yn awr y mae y drws yn gauad, a'm plant gyd â mi yn y gwely; ni allaf godi a'u rhoddi i ti.

8 Yr wyf yn dywedyd i chwi, Er na chyfyd efe a rhoddi iddo, am ei fod yn gyfaill iddo; etto o herwydd ei daerni, efe a gyfyd, ac a rydd iddo gynnifer ag y sydd arno eu heisieu.

9 Ac yr ydwyf yn dywedyd i chwi, Gofynwch, a rhoddir i chwi; ceisiwch, a chwi a gewch; curwch, ac fe a agorir i chwi.

10 Canys pob un sydd yn gofyn, sydd yn derbyn; a'r neb sydd yn ceisio, sydd yn cael; ac i'r hwn sydd yn curo, yr agorir.

11 Os bara a ofyn mab i un o honoch chwi sydd dad, a ddyry efe garreg iddo? ac os pysgodyn, a ddyry efe iddo sarph yn lle pysgodyn?

12 Neu os gofyn efe ŵy, a ddyry efe ysgorpion iddo?

13 Os chwychwi gan hynny, y rhai ydych ddrwg, a fedrwch roi rhoddion da i'ch plant chwi; pa faint mwy y rhydd eich Tad o'r nef yr Yspryd Glân i'r rhai a ofyno ganddo?

14 ¶ Ac yr oedd efe yn bwrw allan gythraul, a hwnnw oedd fud. A bu, wedi i'r cythraul fyned allan, i'r mudan lefaru; a'r bobloedd a ryfeddasant.

15 Eithr rhai o honynt a ddywedasant, Trwy Beelzebub, pennaeth y cythreuliaid, y mae efe yn bwrw allan gythreuliaid.

16 Ac eraill, gan ei demtio, a geisiasant ganddo arwydd o'r nef.

17 Yntau, yn gwybod en meddyliau hwynt, a ddywedodd wrthynt, Pob teyrnas wedi ymrannu yn ei herbyn ei hun, a anghyfanneddir; a thŷ yn erbyn tŷ, a syrth.

18 Ac os Satan hefyd sydd wedi ymrannu yn ei erbyn ei hun, pa fodd y saif ei deyrnas ef? gan eich bod yn dywedyd, mai trwy Beelzebub yr wyf fi yn bwrw allan gythreuliaid.

19 Ac os trwy Beelzebub yr wyf fi yn bwrw allan gythreuliaid, trwy bwy y mae eich plant chwi yn eu bwrw hwynt allan? am hynny y byddant hwy yn farnwyr arnoch chwi.

20 Eithr os myfi trwy fys Duw ydwyf yn bwrw allan gythreuliaid, diammeu ddyfod teyrnas Dduw attoch chwi.

21 Pan fyddo un cryf arfog yn cadw ei neuadd, y mae yr hyn sydd ganddo mewn heddwch:

22 Ond pan ddel un cryfach nag ef arno, a'i orchfygu, efe a ddwg ymaith ei holl arfogaeth ef yn yr hon yr oedd yn ymddiried, ac a ran ei anrhaith ef.

23 Y neb nid yw gyd â mi, sydd yn fy erbyn a'r neb nid yw yn casglu gyd â mi, sydd yn gwasgaru. 24 Pan êl yr yspryd aflan allan o ddyn, efe a rodia mewn lleoedd sychion, gan geisio gorphwysdra : a phryd na chaffo, efe a ddywed, Mi a ddychwelaf i'm tŷ o'r lle y deuthum allan.

25 A phan ddel, y mae yn ei gael wedi ei ysgubo a'i drefnu.

26 Yna yr â efe, ac y cymmer atto saith yspryd eraill gwaeth nag ef ei hun; a hwy a ânt i mewn, ac a arhosant yno: a diwedd y dyn hwnnw fydd gwaeth na'i ddechreuad.

27 ¶ A bu, fel yr oedd efe yn