haddef yntau ger bron angelion Duw.
9 A'r hwn a'm gwado i ger bron dynion, a wedir ger bron angelion Duw.
10 A phwy bynnag a ddywedo air yn erbyn Mab y dyn, fe a faddeuir iddo: eithr i'r neb a gablo yn erbyn yr Yspryd Glân, ni faddeuir.
11 A phan y'ch dygant i'r synagogau, ac at y llywiawdwyr, a'r awdurdodau, na ofelwch pa fodd, neu pa beth a atteboch, neu beth a ddywedoch: 12 Canys yr Yspryd Glân a ddysg i chwi yn yr awr honno beth sydd raid ei ddywedyd.
13 A rhyw un o'r dyrfa a ddywedodd wrtho, Athraw, dywed wrth fy mrawd am rannu â myfi yr etifeddiaeth.
14 Yntau a ddywedodd wrtho, Y dyn, pwy a'm gosododd i yn farnwr neu yn rhannwr arnoch chwi?
15 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Edrychwch, ac ymogelwch rhag cybydd-dod: canys nid yw bywyd neb yn sefyll ar amlder y pethau sydd ganddo.
16 ¶ Ac efe a draethodd wrthynt ddammeg, gan ddywedyd, Tir rhyw wr goludog a gnydiodd yn dda.
17 Ac efe a ymresymmodd ynddo ei hun, gan ddywedyd, Beth a wnaf, am nad oes gennyf le i gasglu fy ffrwythau iddo?
18 Ac efe a ddywedodd, Hyn a wnaf: Mi a dynnaf i lawr fy ysguboriau, ac a adeiladaf rai mwy; ac yno y casglaf fy holl ffrwythau, a'm dâ.
19 A dywedaf wrth fy enaid, Fy enaid, y mae gennyt ddå lawer wedi eu rhoi i gadw dros lawer o flynydd- oedd: gorphwys, bwytta, ŷf, bydd lawen.
20 Eithr Duw a ddywedodd wrtho, O ynfyd, y nos hon y gofynant dy enaid oddi wrthyt; ac eiddo pwy fydd y pethau a barottoaist?
21 Felly y mae yr hwn sydd yn trysori iddo ei hun, ac nid yw gyfoethog tu ag at Dduw.
22 ¶ Ac efe a ddywedodd wrth ei ddisgyblion, Am hyn yr wyf yn dywedyd wrthych, Na chymmerwch ofal am eich bywyd, beth a fwyttaoch; nac am eich corph, beth a wisgoch.
23 Y mae y bywyd yn fwy na'r ymborth, a'r corph yn fwy na'r dillad.
24 Ystyriwch y brain: canys nid ydynt yn hau nac yn medi; i'r rhai nid oes gell nac ysgubor; ac y mae Duw yn eu porthi hwynt: o ba faint mwy yr ydych chwi yn well na'r adar?
25 A phwy o honoch, gan gymmeryd gofal, a ddichon chwanegu un cufydd at ei faintioli?
26 Am hynny, oni ellwch wneuthur y peth lleiaf, paham yr ydych yn cymmeryd gofal am y lleill?
27 Ystyriwch y lili, pa fodd y maent yn tyfu; nid ydynt yn llafurio, nac yn nyddu: ac yr wyf yn dywedyd i chwi, na wisgwyd Solomon yn ei holl ogoniant fel un o'r rhai hyn.
28 Ac os yw Duw felly yn dilladu y llysieuyn, yr hwn sydd heddyw yn y maes, ac y fory a deflir i'r ffwrn: pa faint mwy y dillada efe chwychwi, O rai o ychydig ffydd?
29 Chwithau na cheisiwch beth a fwyttaoch, neu pa beth a yfoch; ac na fyddwch ammheüus.
30 Canys y pethau hyn oll y mae cenhedloedd y byd yn eu hargeisio: ac y mae eich Tad