Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Testament Newydd (1894).djvu/124

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hoddasai ef, Pan wnelych giniaw neu swpper, na alw dy gyfeillion, na'th frodyr, na'th geraint, na'th gymmydogion goludog; rhag iddynt hwythau eilchwyl dy wahodd dithau, a gwneuthur taledigaeth i ti.

13 Eithr pan wnelych wledd, galw y tlodion, yr efryddion, y cloffion, y deillion:

14 A dedwydd fyddi; am nad oes ganddynt ddim i dalu i ti: canys fe a delir i ti yn adgyfodiad y rhai cyfiawn.

15 A phan glywodd rhyw un o'r rhai oedd yn eistedd ar y bwrdd y pethau hyn, efe a ddywedodd wrtho, Gwyn ei fyd y neb a fwyttao fara yn nheyrnas Dduw.

16 Ac yntau a ddywedodd wrtho, Rhyw wr a wnaeth swpper mawr, ac a wahoddodd lawer:

17 Ac a ddanfonodd ei was bryd swpper, i ddywedyd wrth y rhai a wahoddasid, Deuwch; canys weithian y mae pob peth yn barod.

18 A hwy oll a ddechreuasant yn un-fryd ymesgusodi. Y cyntaf a ddywedodd wrtho, Mi a brynais dyddyn, ac y mae yn rhaid i mi fyned a'i weled: attolwg i ti, cymmer fi yn esgusodol.

19 Ac arall a ddywedodd, Mi a brynais bùm iau o ychain, ac yr ydwyf yn myned i'w profi hwynt: attolwg i ti, cymmer fi yn esgusodol.

20 Ac arall a ddywedodd, Mi a brïodais wraig; ac am hynny nis gallaf fi ddyfod.

21 A'r gwas hwnnw, pan ddaeth adref, a fynegodd y pethau hyn i'w arglwydd. Yna gwr y tŷ, wedi digio, a ddywedodd wrth ei was, Dos allan ar frys i heolydd ac ystrydoedd y ddinas, a dwg i mewn yma y tlodion, a'r anafus, a'r cloffion, a'r deillion.

22 A'r gwas a ddywedodd, Arglwydd, gwnaethpwyd fel y gorchymynaist; ac etto y mae lle.

23 A'r arglwydd a ddywedodd wrth y gwas, Dos allan i'r prifffyrdd a'r cacau, a chymmell hwynt i ddyfod i mewn, fel y llanwer fy nhŷ.

24 Canys yr wyf yn dywedyd i chwi, na chaiff yr un o'r gwŷr hynny a wahoddwyd, brofi o'm swpper i.

25 ¶ A llawer o bobl a gyd-gerddodd âg ef: ac efe a droes, ac a ddywedodd wrthynt,

26 Os daw neb attaf fi, ac ni chasao ei dad, a'i fam, a'i wraig, a'i blant, a'i frodyr, a'i chwiorydd, ïe, a'i einioes ei hun hefyd, ni all efe fod yn ddisgybl i mi.

27 A phwy bynnag ni ddycco ei groes, a dyfod ar fy ol i, ni all efe fod yn ddisgybl i mi.

28 ¶ Canys pwy o honoch chwi a'i fryd ar adeiladu tŵr, nid eistedd yn gyntaf, a bwrw y draul, a oes ganddo a'i gorpheno?

29 Rhag wedi iddo osod y sail, ac heb allu ei orphen, ddechreu o bawb a'i gwelant ei watwar ef,

30 Gan ddywedyd, Y dyn hwn a ddechreuodd adeiladu, ac ni allodd ei orphen.

31 Neu pa frenhin yn myned i ryfel yn erbyn brenhin arall, nid eistedd yn gyntaf, ac ymgynghori a all efe à deng mil gyfarfod a'r hwn sydd yn dyfod yn ei erbyn ef âg ugain mil?

32 Ac os amgen, tra fyddo efe ym mhell oddi wrtho, efe a enfyn gennadwri, ac a ddeisyf ammodau heddwch.

33 Felly hefyd, pob un o honoch chwithau nid ym-