at ei dad. A phan oedd efe etto ym mhell oddi wrtho, ei dad a'i canfu ef, ac a dosturiodd, ac a redodd, ac a syrthiodd ar ei wddf ef, ac a'i cusanodd.
21 A'r mab a ddywedodd wrtho, Fy nhad, pechais yn erbyn y nef, ac o'th flaen dithau; ac nid ydwyf mwy deilwng i'm galw yn fab i ti.
22 A'r tad a ddywedodd wrth ei weision, Dygwch allan y wisg oreu, a gwisgwch am dano ef, a rhoddwch fodrwy ar ei law, ac esgidiau am ei draed:
23 A dygwch y llo pasgedig, a lleddwch ef; a bwyttâwn, a byddwn lawen.
24 Canys fy mab hwn oedd farw, ac a aeth yn fyw drachefn; ac efe a gollesid, ac a gaed. A hwy a ddechreuasant fod yn llawen.
25 Ac yr oedd ei fab hynaf ef yn y maes; a phan ddaeth efe a nesâu at y tŷ, efe a glywai gynghanedd a dawnsio.
26 Ac wedi iddo alw un o'r gweision, efe a ofynodd beth oedd hyn.
27 Yntau a ddywedodd wrtho, Dy frawd a ddaeth; a'th dad a laddodd y llo pasgedig, am iddo ei dderbyn ef yn iach.
28 Ond efe a ddigiodd, ac nid âi i mewn. Am hynny y daeth ei dad allan, ac a ymbiliodd âg ef.
29 Yntau a attebodd ac a ddywedodd wrth ei dad, Wele, cynnifer o flynyddoedd yr ydwyf yn dy wasanaethu di, ac ni throseddais i un amser dy orchymyn; ac ni roddaist fyn erioed i mi, i fod yn llawen gyd a'm cyfeillion:
30 Eithr pan ddaeth dy fab hwn, yr hwn a ddifaodd dy fywyd di gyd â phutteiniaid, ti a leddaist iddo ef y llo pasgedig.
31 Ac efe a ddywedodd wrtho, Fy mab, yr wyt ti yn wastadol gyd â mi, a'r eiddof fi oll ydynt eiddot ti.
32 Rhaid oedd llawenychu, a gorfoleddu oblegid dy frawd hwn oedd yn farw, ac a aeth yn fyw drachefn; ac a fu golledig, ac a gafwyd.
PENNOD XVI.
1 Dammeg y goruchwyliwr anghyfiawn. 14 Crist yn ceryddu rhagrith y Phariseaid cybyddlyd. 19 Y glwth goludog, a Lazarus y cardottyn.
Ac efe a ddywedodd hefyd wrth ei ddisgyblion, Yr oedd rhyw wr goludog, yr hwn oedd ganddo oruchwyliwr; a hwn a gyhuddwyd wrtho, ei fod efe megis yn afradloni ei ddâ ef.
2 Ac efe a'i galwodd ef, ac a ddywedodd wrtho, Pa beth yw hyn yr wyf yn ei glywed am danat? dyro gyfrif o'th oruchwyliaeth: canys ni elli fod mwy yn oruchwyliwr.
3 A'r goruchwyliwr a ddywedodd ynddo ei hun, Pa beth a wnaf? canys y mae fy arglwydd yn dwyn yr oruchwyliaeth oddi arnaf: cloddio nis gallaf, a chardotta sydd gywilyddus gennyf.
4 Mi a wn beth a wnaf, fel, pan y'm bwrier allan o'r oruchwyliaeth, y derbyniont fi i'w tai.
5 Ac wedi iddo alw atto bob un o ddyledwyr ei arglwydd, efe a ddywedodd wrth y cyntaf, Pa faint sydd arnat ti o ddyled i'm harglwydd?
6 Ac efe a ddywedodd, Càn mesur o olew. Ac efe a ddywedodd wrtho, Cymmer dy ysgrifen, ac eistedd ar frys, ac ysgrifena ddeg a deugain.
7 Yna y dywedodd wrth un