i'r tlodion; a thi a gei drysor yn y nef: a thyred, canlyn fi.
23 Ond pan glybu efe y pethau hyn, efe a aeth yn athrist: canys yr oedd efe yn gyfoethog iawn.
24 A'r Iesu, pan welodd ef wedi myned yn athrist, a ddywedodd, Mor anhawdd yr â y rhai y mae golud ganddynt i mewn i deyrnas Dduw!
25 Canys haws yw i gamel fyned trwy grai y nodwydd ddur, nag i oludog fyned i mewn i deyrnas Dduw.
26 A'r rhai a glywsent a ddywedasant, A phwy a all fod yn gadwedig?
27 Ac efe a ddywedodd, Y pethau sydd ammhosibl gyd â dynion, sydd bosibl gyd â Duw.
28 A dywedodd Petr, Wele, nyni a adawsom bob peth, ac a'th ganlynasom di.
29 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Yn wir meddaf i chwi, Nid oes neb a'r a adawodd dŷ, neu rïeni, neu frodyr, neu wraig, neu blant, er mwyn teyrnas Dduw,
30 A'r nis derbyn lawer cymaint yn y pryd hwn, ac yn y byd a ddaw fywyd tragywyddol.
31 ¶ Ac efe a gymmerodd y deuddeg atto, ac a ddywedodd wrthynt, Wele, yr ydym ni yn myned i fynu i Jerusalem; a chyflawnir pob peth a'r sydd yn ysgrifenedig trwy y prophwydi am Fab y dyn.
32 Canys efe a draddodir i'r Cenhedloedd, ac a watwerir, ac a ammherchir, ac a boerir arno:
33 Ac wedi iddynt ei fflangellu, y lladdant ef: a'r trydydd dydd efe a adgyfyd.
34 A hwy ni ddeallasant ddim o'r pethau hyn; a'r gair hwn oedd guddiedig oddi wrthynt, ac ni wybuant y pethau a ddywedwyd.
35 ¶ A bu, ac efe yn nesâu at Jericho, i ryw ddyn dall fod yn eistedd yn ymyl y ffordd yn cardotta:
36 A phan glybu efe y dyrfa yn myned heibio, efe a ofynodd pa beth oedd hyn.
37 A hwy a ddywedasant iddo, Mai Iesu o Nazareth oedd yn myned heibio.
38 Ac efe a lefodd, gan ddywedyd, Iesu, Mab Dafydd, trugarhâ wrthyf.
39 A'r rhai oedd yn myned o'r blaen a'i ceryddasant ef i dewi: eithr efe a lefodd yn fwy o lawer, Mab Dafydd, trugarhâ wrthyf.
40 A'r Iesu a safodd, ac a orchymynodd ei ddwyn ef atto. A phan ddaeth efe yn agos, efe a ofynodd iddo,
41 Gan ddywedyd, Pa beth a fynni di i mi ei wneuthur i ti? Yntau a ddywedodd, Arglwydd, cael o honof fy ngolwg.
42 A'r Iesu a ddywedodd wrtho, Cymmer dy olwg: dy ffydd a'th iachaodd.
43 Ac allan o law y cafodd efe ei olwg, ac a'i canlynodd ef, gan ogoneddu Duw. A'r holl bobl, pan welsant, a roisant foliant i Dduw.
PENNOD XIX.
1 Am Zaccheus y publican. 11 Y deg darn o arian. 28 Crist yn marchogaeth i Jerusalem mewn gorfoledd: 41 yn wylo drosti: 45 yn gyrru y prynwyr a'r gwerthwyr allan o'r deml; 47 gan athrawiaethu beunydd ynddi. Y llywodraethwyr a fynnent ei ddifetha ef, oni bai rhag ofn y bobl.
A'R Iesu a aeth i mewn, ac a aeth trwy Jericho.
2 Ac wele wr a elwid wrth ei enw Zaccheus, ac efe oedd ben-publican, a hwn oedd gyfoethog.