3 Ac yr oedd efe yn ceisio gweled yr Iesu, pwy ydoedd; ac ni allai gan y dyrfa, am ei fod yn fychan o gorpholaeth.
4 Ac efe a redodd o'r blaen, ac a ddringodd i sycamor-wydden, fel y gallai ei weled ef: oblegid yr oedd efe i ddyfod y ffordd honno.
5 A phan ddaeth yr Iesu i'r lle, efe a edrychodd i fynu, ac a'i canfu ef; ac a ddywedodd wrtho, Zaccheus, disgyn ar frys: canys rhaid i mi heddyw aros yn dy dŷ di.
6 Ac efe a ddisgynodd ar frys, ac a'i derbyniodd ef yn llawen.
7 A phan welsant, grwgnach a wnaethant oll, gan ddywedyd, Fyned o hono ef i mewn i lettya at wr pechadurus.
8 A Zaccheus a safodd, ac a ddywedodd wrth yr Arglwydd, Wele, hanner fy na, O Arglwydd, yr ydwyf yn ei roddi i'r tlodion; ac os dygais ddim o'r eiddo neb trwy gam-achwyn, yr ydwyf yn ei dalu ar ei bedwerydd.
9 A'r Iesu a ddywedodd wrtho, Heddyw y daeth iachawdwriaeth i'r tŷ hwn, o herwydd ei fod yntau yn fab i Abraham.
10 Canys Mab y dyn a ddaeth i geisio ac i gadw yr hyn a gollasid.
11 ¶ Ac a hwy yn gwrandaw ar y pethau hyn, efe a chwanegodd, ac a ddywedodd ddammeg, am ei fod efe yn agos i Jerusalem, ac am iddynt dybied yr ymddangosai teyrnas Dduw yn y fan.
12 Am hynny y dywedodd efe, Rhyw wr bonheddig a aeth i wlad bell i dderbyn teyrnas iddo ei hun, ac i ddychwelyd.
13 Ac wedi galw ei ddeg gwas, efe a roddes iddynt ddeg punt, ac a ddywedodd wrthynt, Marchnattêwch hyd oni ddelwyf.
14 Eithr ei ddinaswyr a'i casasant ef, ac a ddanfonasant gennadwri ar ei ol ef, gan ddywedyd, Ni fynnwn ni hwn i deyrnasu arnom.
15 A bu, pan ddaeth efe yn ei ol, wedi derbyn y deyrnas, erchi o hono ef alw y gweision hyn atto, i'r rhai y rhoddasai efe yr arian, fel y gwybyddai beth a elwasai bob un wrth farchnatta.
16 A daeth y cyntaf, gan ddywedyd, Arglwydd, dy bunt a ennillodd ddeg punt.
17 Yntau a ddywedodd wrtho, Da, was da am i ti fod yn ffyddlawn yn y lleiaf, bydded i ti awdurdod ar ddeg dinas.
18 A'r ail a ddaeth, gan ddywedyd, Arglwydd, dy bunt di a wnaeth bum punt.
19 Ac efe a ddywedodd hefyd wrth hwnnw, Bydd dithau ar bùm dinas.
20 Ac un arall a ddaeth, gan ddywedyd, Arglwydd, wele dy bunt, yr hon oedd gennyf wedi ei dodi mewn napcyn:
21 Canys mi a'th ofnais, am dy fod yn wr tost: yr wyt ti yn cymmeryd i fynu y peth ni roddaist i lawr, ac yn medi y peth ni heuaist.
22 Yntau a ddywedodd wrtho, O'th enau dy hun y'th farnaf, tydi was drwg. Ti a wyddit fy mod i yn wr tost, yn cymmeryd i fynu y peth ni roddais i lawr, ac yn medi y peth ni heuais:
23 A phaham na roddaist fy arian i i'r bwrdd cyfnewid, fel, pan ddaethwn, y gallaswn ei gael gyd â llog?
24 Ac efe a ddywedodd wrth y rhai oedd yn sefyll ger llaw, Dygwch oddi arno ef y bunt, a rhoddwch i'r hwn sydd a deg punt ganddo;