25 (A hwy a ddywedasant wrtho, Arglwydd, y mae ganddo ef ddeg punt;)
26 Canys yr wyf fi yn dywedyd i chwi, mai i bob un y mae ganddo, y rhoddir iddo; eithr oddi ar yr hwn nid oes ganddo, y dygir oddi arno, ïe, yr hyn sydd ganddo.
27 A hefyd fy ngelynion hynny, y rhai ni fynnasent i mi deyrnasu arnynt, dygwch hwynt yma, a lleddwch ger fy mron i.
28 Ac wedi iddo ddywedyd y pethau hyn, efe a aeth o'r blaen, gan fyned i fynu i Jerusalem.
29 Ac fe a ddigwyddodd pan ddaeth efe yn agos at Bethphage a Bethania, i'r mynydd a elwir Olew-wydd, efe a anfonodd ddau o'i ddisgyblion,
30 Gan ddywedyd, Ewch i'r pentref ar eich cyfer; yn yr hwn, gwedi eich dyfod i mewn, chwi a gewch ebol yn rhwym, ar yr hwn nid eisteddodd dyn erioed: gollyngwch ef, a dygwch yma.
31 Ac os gofyn neb i chwi, Paham yr ydych yn ei ollwng? fel hyn y dywedwch wrtho, Am fod yn rhaid i'r Arglwydd wrtho.
32 A'r rhai a ddanfonasid a aethant ymaith, ac a gawsant fel y dywedasai efe wrthynt.
33 Ac fel yr oeddynt yn gollwng yr ebol, ei berchennogion a ddywedasant wrthynt, Paham yr ydych yn gollwng yr ebol?
34 A hwy a ddywedasant, Mae yn rhaid i'r Arglwydd wrtho ef.
35 A hwy a'i dygasant ef at yr Iesu: ac wedi iddynt fwrw eu dillad ar yr ebol, hwy a ddodasant yr Iesu arno.
36 Ac fel yr oedd efe yn myned, hwy a daenasant eu dillad ar hyd y ffordd.
37 Ac weithian, ac efe yn nesâu at ddisgynfa mynydd yr Olew-wydd, dechreuodd yr holl lïaws disgyblion lawenhâu, a chlodfori Duw â llef uchel, am yr holl weithredoedd nerthol a welsent;
38 Gan ddywedyd, Bendigedig yw y Brenhin sydd yn dyfod yn enw yr Arglwydd Tangnefedd yn y nef, a gogoniant yn y goruchaf.
39 A rhai o'r Phariseaid o'r dyrfa a ddywedasant wrtho, Athraw, cerydda dy ddisgyblion.
40 Ac efe a attebodd ac a ddywedodd wrthynt, Yr ydwyf yn dywedyd i chwi, Pe tawai y rhai hyn, y llefai y cerrig yn y fan.
41 Ac wedi iddo ddyfod yn agos, pan welodd efe y ddinas, efe a wylodd drosti,
42 Gan ddywedyd, Pe gwybuasit dithau, ie, yn dy ddydd hwn, y pethau a berthynent i'th heddwch! eithr y maent yn awr yn guddiedig oddi wrth dy lygaid.
43 Canys daw y dyddiau arnat, a'th elynion a fwriant glawdd o'th amgylch, ac a'th amgylchant, ac a'th warchaeant o bob parth,
44 Ac a'th wnant yn gyd-wastad â'r llawr, a'th blant o'th fewn; ac ni adawant ynot faen ar faen; o herwydd nad adnabuost amser dy ymweliad.
45 Ac efe a aeth i mewn i'r deml, ac a ddechreuodd fwrw allan y rhai oedd yn gwerthu ynddi, ac yn prynu;
46 Gan ddywedyd wrthynt, Y mae yn ysgrifenedig, Fy nhŷ i, ty gweddi yw: eithr chwi a'i gwnaethoch yn ogof lladron.