Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Testament Newydd (1894).djvu/134

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

47 Ac yr oedd efe beunydd yn athrawiaethu yn y deml. A'r archoffeiriaid, a'r ysgrifenyddion, a phennaethiaid y bobl, a geisient ei ddifetha ef;

48 Ac ni fedrasant gael beth a wnaent: canys yr holl bobl oedd yn glynu wrtho i wrandaw arno.

PENNOD XX.

1 Crist yn profi ei awdurdod, trwy ymofyn am fedydd Ioan. 9 Dammeg y winllan. 19 Am roddi teyrnged i Cesar. 27 Y mae efe yn gorchfygu y Saduceaid, y rhai a wadent yr adgyfodiad. 41 Y modd y mae Crist yn fab Dafydd. 45 Y mae efe yn rhybuddio ei ddisgyblion i ochelyd yr ysgrifenyddion.

A DIGWYDDODD ar un o'r dyddiau hynny, ac efe yn dysgu y bobl yn y deml, ac yn pregethu yr efengyl, ddyfod arno yr arch-offeiriaid a'r ysgrifenyddion, gyd â'r henuriaid,

2 A llefaru wrtho, gan ddywedyd, Dywed i ni, Trwy ba awdurdod yr wyt yn gwneuthur y pethau hyn? neu pwy yw yr hwn a roddodd i ti yr awdurdod hon?

3 Ac efe a attebodd ac a ddywedodd wrthynt, A minnau a ofynaf i chwithau un gair; a dywedwch i mi:

4 Bedydd Ioan, ai o'r nef yr ydoedd, ai o ddynion?

5 Eithr hwy a ymresymmasant yn eu plith eu hunain, gan ddywedyd, Os dywedwn, O'r nef; efe a ddywed, Paham gan hynny na chredech ef?

6 Ac os dywedwn, O ddynion; yr holl bobl a'n llabyddiant ni: canys y maent hwy yn cwbl-gredu fod Ioan yn brophwyd.

7 A hwy a attebasant, nas gwyddent o ba le.

8 A'r Iesu a ddywedodd wrthynt, Ac nid wyf finnau yn dywedyd i chwi trwy ba awdurdod yr wyf yn gwneuthur y pethau hyn.

9 ¶ Ac efe a ddechreuodd ddywedyd y ddammeg hon wrth y bobl: Rhyw wr a blannodd winllan, ac a'i gosododd i lafurwyr, ac a aeth oddi cartref dros dalm o amser.

10 Ac mewn amser efe a anfonodd was at y llafurwyr, fel y rhoddent iddo o ffrwyth y winllan: eithr y llafurwyr a'i curasant ef, ac a'i hanfonasant ymaith yn wag-law.

11 Ac efe a chwanegodd anfon gwas arall: eithr hwy a gurasant ac a ammharchasant hwnnw hefyd, ac a'i hanfonasant ymaith yn wag-law.

12 Ac efe a chwanegodd anfon y trydydd: a hwy a glwyfasant hwn hefyd, ac a'i bwriasant ef allan.

13 Yna y dywedodd arglwydd y winllan, Pa beth a wnaf? Mi a anfonaf fy anwyl fab: fe allai pan welant ef, y parchant ef.

14 Eithr y llafurwyr, pan welsant ef, a ymresymmasant a'u gilydd, gan ddywedyd, Hwn yw yr etifedd: deuwch, lladdwn ef, fel y byddo yr etifeddiaeth yn eiddom ni.

15 A hwy a'i bwriasant ef allan o'r winllan, ac a'i lladdasant. Pa beth gan hynny a wna arglwydd y winllan iddynt hwy?

16 Efe a ddaw, ac a ddifetha y llafurwyr hyn, ac a rydd ei winllan i eraill. A phan glywsant hyn, hwy a ddywedasant, Na atto Duw.

17 Ac efe a edrychodd arnynt, ac a ddywedodd, Beth gan hynny yw hyn a ysgrifenwyd, Y maen a wrthododd yr adeiladwyr, hwn a wnaethpwyd yn ben y gongl?