18 Pwy bynnag a syrthio ar y maen hwnnw, a ddryllir: ac ar bwy bynnag y syrthio, efe a'i mâl ef.
19 ¶ A'r arch-offeiriaid a'r ysgrifenyddion a geisiasant roddi dwylaw arno yr awr honno; ac yr oedd arnynt ofn y bobl: canys gwybuant mai yn eu herbyn hwynt y dywedasai efe y ddammeg hon.
20 A hwy a'i gwyliasant ef, ac a yrrasant gynllwynwyr, y rhai a gymmerent arnynt eu bod yn gyfiawn; fel y dalient ef yn ei ymadrodd, i'w draddodi ym meddiant ac awdurdod y rhaglaw.
21 A hwy a ofynasant iddo ef, gan ddywedyd, Athraw, ni a wyddom mai uniawn yr ydwyt ti yn dywedyd ac yn dysgu, ac nad wyt yn derbyn wyneb, eithr yn dysgu ffordd Duw mewn gwirionedd.
22 Ai cyfreithlawn i ni roi teyrnged i Cesar, ai nid yw?
23 Ac efe a ddeallodd eu cyfrwysdra hwy, ac a ddywedodd wrthynt, Paham y temtiwch fi?
24 Dangoswch i mi geiniog. Llun ac argraph pwy sydd arni? A hwy a attebasant ac a ddywedasant, Yr eiddo Cesar.
25 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Rhoddwch chwithau yr eiddo Cesar i Cesar, a'r eiddo Duw i Dduw.
26 Ac ni allasant feio ar ei eiriau ef ger bron y bobl: a chan ryfeddu wrth ei atteb ef, hwy a dawsant â sôn.
27 ¶ A rhai o'r Saduceaid (y rhai sydd yn gwadu nad oes adgyfodiad,) a ddaethant atto ef, ac a ofynasant iddo,
28 Gan ddywedyd, Athraw, Moses a ysgrifenodd i ni, Os byddai farw brawd neb, ac iddo wraig, a marw o hono yn ddiblant, ar gymmeryd o'i frawd ei wraig ef, a chodi had i'w frawd.
29 Yr oedd gan hynny saith o frodyr: a'r cyntaf a gymmerodd wraig, ac a fu farw yn ddiblant.
30 A'r ail a gymmerth y wraig, ac a fu farw yn ddiblant.
31 A'r trydydd a'i cymmerth hi; ac yr un ffunud y saith hefyd: ac ni adawsant blant, ac a fuont feirw.
32 Ac yn ddiweddaf oll bu farw y wraig hefyd.
33 Yn yr adgyfodiad gan hynny, gwraig i bwy un o honynt yw hi? canys y saith a'i cawsant hi yn wraig.
34 A'r Iesu gan atteb a ddywedodd wrthynt, Plant y byd hwn sydd yn gwreicca, ac yn gŵra:
35 Eithr y rhai a gyfrifir yn deilwng i gael y byd hwnnw, a'r adgyfodiad oddi wrth y meirw, nid ydynt nac yn gwreicca, nac yn gŵra:
36 Canys nis gallant farw mwy: oblegid cyd-stad ydynt a'r angelion; a phlant Duw ydynt, gan eu bod yn blant yr adgyfodiad.
37 Ac y cyfyd y meirw, Moses hefyd a hysbysodd wrth y berth, pan yw ef yn galw yr Arglwydd yn Dduw Abraham, ac yn Dduw Isaac, ac yn Dduw Jacob.
38 Ac nid yw efe Dduw y meirw, ond y byw: canys pawb sydd fyw iddo ef.
39 Yna rhai o'r ysgrifenyddion gan atteb a ddywedasant, Athraw, da y dywedaist.
40 Ac ni feiddiasant mwyach ofyn dim iddo ef.
41 ¶ Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pa fodd y maent yn dywedyd fod Crist yn fab i Dafydd?