Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Testament Newydd (1894).djvu/138

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

A NESAODD gwyl y bara croyw, Α yr hon a elwir y pasc.

2 A'r arch-offeiriaid a'r ysgrifenyddion a geisiasant pa fodd y difethent ef: oblegid yr oedd arnynt ofn y bobl.

3 ¶ A Satan a aeth i mewn i Judas, yr hwn a gyfenwid Iscariot, yr hwn oedd o rifedi y deuddeg.

4 Ac efe a aeth ymaith, ac a ymddiddanodd â'r arch-offeiriaid a'r blaenoriaid, pa fodd y bradychai efe ef iddynt.

5 Ac yr oedd yn llawen ganddynt: a hwy a gyttunasant ar roddi arian iddo.

6 Ac efe a addawodd, ac a geisiodd amser cyfaddas i'w fradychu ef iddynt yn absen y bobl.

7 ¶ A daeth dydd y bara croyw, ar hwn oedd rhaid lladd y pasc.

8 Ac efe a anfonodd Petr ac Ioan, gan ddywedyd, Ewch, parottowch i ni y pasc, fel y bwyttaom.

9 A hwy a ddywedasant wrtho, Pa le y mynni barottôi o honom?

10 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Wele, pan ddeloch i mewn i'r ddinas, cyferfydd â chwi ddyn yn dwyn ystenaid o ddwfr: canlynwch ef i'r ty lle yr êl efe i mewn.

11 A dywedwch wrth wr y tŷ, Y mae yr Athraw yn dywedyd wrthyt, Pa le y mae y lletty, lle y gallwyf fwytta y pasc gyd a'm disgyblion?.

12 Ac efe a ddengys i chwi oruwch-ystafell fawr, wedi ei thaenu: yno parottowch.

13 A hwy a aethant, ac a gawsant fel y dywedasai efe wrthynt; ac a barottoisant y pasc.

14 A phan ddaeth yr awr, efe a eisteddodd i lawr, a'r deuddeg apostol gyd âg ef.

15 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Mi a chwennychais yn fawr fwytta y pasc hwn gyd â chwi cyn dioddef o honof.

16 Canys yr ydwyf yn dywedyd i chwi, Ni fwyttâf fi mwyach o hono, hyd oni chyflawner yn nheyrnas Dduw.

17 Ac wedi iddo gymmeryd y cwppan, a rhoddi diolch, efe a ddywedodd, Cymmerwch hwn, a rhennwch yn eich plith:

18 Canys yr ydwyf yn dywedyd i chwi, nad yfaf o ffrwyth y winwydden, hyd oni ddêl teyrnas Dduw.

19 Ac wedi iddo gymmeryd bara, a rhoi diolch, efe a'i torrodd, ac a'i rhoddes iddynt, gan ddywedyd, Hwn yw fy nghorph yr hwn yr ydys yn ei roddi drosoch: gwnewch hyn er coffa am danaf.

20 Yr un modd y cwppan hefyd wedi swpperu, gan ddywedyd, Y cwppan hwn yw y testament newydd yn fy ngwaed i, yr hwn yr ydys yn ei dywallt drosoch.

21 ¶ Eithr wele law yr hwn sydd yn fy mradychu gyd â mi ar y bwrdd.

22 Ac yn wir y mae Mab y dyn yn myned, megis y mae wedi ei luniaethu eithr gwae y dyn hwnnw, trwy yr hwn y bradychir ef!