a maddeuant pechodau yn ei enw ef ym mhlith yr holl genhedloedd, gan ddechreu yn Jerusalem.
48 Ac yr ydych chwi yn dystion o'r pethau hyn.
49 ¶ Ac wele, yr ydwyf fi yn anfon addewid fy Nhad arnoch: eithr arhoswch chwi yn ninas Jerusalem, hyd oni wisger chwi â nerth o'r uchelder.
50 ¶ Ac efe a'u dug hwynt allan hyd yn Bethania; ac a gododd ei ddwylaw, ac a'u bendithiodd hwynt.
51 Ac fe a ddarfu, tra yr oedd efe yn eu bendithio hwynt, ymadael o hono ef oddi wrthynt, ac efe a ddygwyd i fynu i'r nef.
52 Ac wedi iddynt ei addoli ef, hwy a ddychwelasant i Jerusalem, gyd â llawenydd mawr:
53 Ac yr oeddynt yn wastadol yn y deml, yn moli ac yn bendithio, Duw.Amen.
YR EFENGYL YN OL
SANT IOAN.
PENNOD I.
1 Duwdab, dyndab, a swydd Iesu Grist. 15 Tystiolaeth Ioan. 39 Galwad Andreas, Petr, Phylip, a Nathanäel.
YN dechreuad yr oedd y Gair, a'r Gair oedd gyd â Duw, a Duw oedd y Gair.
2 Hwn oedd yn y dechreuad gyd â Duw.
3 Trwyddo ef y gwnaethpwyd pob peth; ac hebddo ef ni wnaethpwyd dim a'r a wnaethpwyd.
4 Ynddo ef yr oedd bywyd; a'r bywyd oedd oleuni dynion.
5 A'r goleuni sydd yn llewyrchu yn y tywyllwch; a'r tywyllwch nid oedd yn ei amgyffred.
6 ¶ Yr ydoedd gwr wedi ei anfon oddi wrth Dduw, a'i enw Ioan.
7 Hwn a ddaeth yn dystiolaeth, fel y tystiolaethai am y Goleuni, fel y credai pawb trwyddo ef.
8 Nid efe oedd y Goleuni, eithr efe a anfonasid fel y tystiolaethai am y Goleuni.
9 Hwn ydoedd y gwir Oleuni, yr hwn sydd yn goleuo pob dyn a'r y sydd yn dyfod i'r byd.
10 Yn y byd yr oedd efe, a'r byd a wnaethpwyd trwyddo ef; a'r byd nid adnabu ef.
11 At ei eiddo ei hun y daeth, a'r eiddo ei hun nis derbyniasant ef.
12 Ond cynnifer ag a'i derbyniasant ef, efe a roddes iddynt allu i fod yn feibion i Dduw, sef i'r sawl a gredant yn ei enw ef:
13 Y rhai ni aned o waed, nac o ewyllys y cnawd, nac o ewyllys gwr, eithr o Dduw.
14 A'r Gair a wnaethpwyd yn gnawd, ac a drigodd yn ein plith ni, (ac ni a welsom ei ogoniant ef, gogoniant megis yr Unig-anedig oddi wrth y Tad,) yn llawn gras a gwirionedd.
15 ¶ Ioan a dystiolaethodd am dano ef, ac a lefodd, gan ddywedyd, Hwn oedd yr un y dywedais am dano, Yr hwn sydd yn dyfod ar fy ol