Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Testament Newydd (1894).djvu/96

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Cesar, a Phontius Pilat yn rhaglaw Judea, a Herod yn detrarch Galilea, a'i frawd Phylip yn detrarch Iturea a gwlad Trachonitis, a Lysanias yn detrarch Abilene,

2 Dan yr arch-offeiriaid Annas a Chaiaphas, y daeth gair Duw at Ioan, mab Zacharïas, yn y diffaethwch.

3 Ac efe a ddaeth i bob goror ynghylch yr Iorddonen, gan bregethu bedydd edifeirwch er maddeuant pechodau;

4 Fel y mae yn ysgrifenedig yn llyfr ymadroddion Esaias y prophwyd, yr hwn sydd yn dywedyd, Llef un yn llefain yn y diffaethwch, Parottowch ffordd yr Arglwydd, gwnewch ei lwybrau ef yn uniawn.

5 Pob pant a lenwir, a phob mynydd a bryn a ostyngir, a'r gwyr-geimion a wneir yn uniawn, a'r geirwon yn ffyrdd gwastad:

6 A phob cnawd a wêl iachawdwriaeth Duw.

7 Am hynny efe a ddywedodd wrth y bobl oedd yn dyfod i'w bedyddio ganddo, O genhedlaeth gwiberod, pwy a'ch rhag-rybuddiodd chwi i ffoi oddi wrth y digofaint sydd ar ddyfod?

8 Dygwch gan hynny ffrwythau addas i edifeirwch; ac na ddechreuwch ddywedyd ynoch eich hunain, Y mae gennym ni Abraham yn dad: canys yr wyf yn dywedyd i chwi, y dichon Duw o'r cerrig hyn godi plant i Abraham.

9 Ac yr awrhon y mae y fwyell wedi ei gosod ar wreiddyn y prennau: pob pren gan hynny a'r nid yw yn dwyn ffrwyth da, a gymmynir i lawr, ac a fwrir yn tân.

10 A'r bobloedd a ofynasant iddo, gan ddywedyd, Pa beth gan hynny a wnawn ni?

11 Ac efe a attebodd ac a ddywedodd wrthynt, Y neb sydd ganddo ddwy bais, rhodded i'r neb sydd heb yr un; a'r neb sydd ganddo fwyd, gwnaed yr un modd.

12 A'r publicanod hefyd a ddaethant i'w bedyddio, ac a ddywedasant wrtho, Athraw, beth a wnawn ni?

13 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Na cheisiwch ddim mwy nag sydd wedi ei osod i chwi.

14 A'r milwyr hefyd a ofynasant iddo, gan ddywedyd, A pha beth a wnawn ninnau? Ac efe a ddywed odd wrthynt, Na fyddwch draws wrth neb, ac na chamachwynwch ar neb; a byddwch foddlawn i'ch cyflogau.

15 Ac fel yr oedd y bobl yn disgwyl, a phawb yn meddylied yn eu calonnau am Ioan, ai efe oedd y Crist;

16 Ioan a attebodd, gan ddywedyd wrthynt oll, Myfi yn ddiau ydwyf yn eich bedyddio chwi â dwfr: ond y mae un cryfach na myfi yn dyfod, yr hwn nid wyf fi deilwng i ddattod carrai ei esgidiau: efe a'ch bedyddia chwi â'r Yspryd Glân, ac â thân.

17 Yr hwn y mae ei wyntyll yn ei law, ac efe a lwyrlanha ei lawr-dyrnu, ac a gasgl y gwenith i'w ysgubor; ond yr us a lysg efe â thân anniffoddadwy.

18 A llawer o bethau eraill a gynghorodd efe, ac a bregethodd i'r bobl.

19 Ond Herod y tetrarch, pan ger yddwyd ef ganddo am Herodias gwraig Phylip ei frawd, ac am yr holl ddrygioni a wnaethai Herod,

20 A chwanegodd hyn hefyd heblaw y cwbl, ac a gauodd ar Ioan yn y carchar.