Tudalen:Testament Newydd ein Harglwydd a'n Hiachawdwr Iesu Grist.djvu/10

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yno. Ac wedi ei rybuddio gan Dduw mewn breuddwyd, efe a giliodd i barthau Galilea.

23 A phan ddaeth, efe a drigodd mewn dinas a elwid Nazareth: fel y cyflawnid yr hyn a ddywedasid trwy y prophwydi, Y gelwid ef yn Nazaread.

PENNOD III

1 Pregeth Ioan, a'i swydd, a'i fuchedd, a'i fedydd; 7 y mae yn ceryddu y Phariseaid, 13 ac yn bedyddio Crist yn yr Iorddonen.

1 AC yn y dyddiau hynny y daeth Ioan Fedyddiwr, gan bregethu yn niffaethwch Judea,

2 A dywedyd, Edifarhêwch: canys nesaodd teyrnas nefoedd.

3 Oblegid hwn yw efe yr hwn y dywedwyd am dano gan Esaias y prophwyd, gan ddywedyd, Llef un yn llefain yn y diffaethwch, Parottowch ffordd yr Arglwydd; gwnewch yn uniawn ei lwybrau ef.

4 A'r Ioan hwnnw oedd a'i ddillad o flew camel, a gwregys o groen ynghylch ei lwynau: a'i fwyd oedd locustiaid a mêl gwyllt.

5 Yna yr aeth allan atto ef Jerusalem a holl Judea, a'r holl wlad o amgylch yr Iorddonen:

6 A hwy a fedyddiwyd ganddo ef yn yr Iorddonen, gan gyffesu eu pechodau.

7 ¶ A phan welodd efe lawer o'r Phariseaid ac o'r Saduceaid yn dyfod i'w fedydd ef, efe a ddywed. wrthynt hwy, gwiberod, pwy a'ch rhag-rybuddiodd i ffoi rhag y llid a fydd?

8 Dygwch gan hynny ffrwythau addas i edifeirwch.

9 Ac na feddyliwch ddywedyd ynoch eich hunain, Y mae gennym ni Abraham yn dad i ni: canys yr ydwyf yn dywedyd i chwi, y dichon Duw, ie, o'r meini hyn, gyfodi plant i Abraham.

10 Ac yr awrhon hefyd y mae y fwyell wedi ei gosod ar wreiddyn y prennau: pob pren gan hynny yr hwn nid yw yn dwyn ffrwyth da, a dorrir i lawr, ac a deflir yn tân.

11 Myfi yn ddiau ydwyf yn eich bedyddio chwi â dwfr i edifeirwch: eithr yr hwn sydd yn dyfod ar fy ol i, sydd gryfach na myfi, yr hwn nid ydwyf deilwng i ddwyn ei esgidiau: efe a'ch bedyddia chwi â'r Yspryd Glân, ac â thân.

12 Yr hwn y mae ei wyntyll yn ei law, ac efe a lwyr-lanhâ ei lawrdyrnu, ac a gasgl ei wenith i'w ysgubor; eithr yr us a lysg efe â thân anniffoddadwy.

13 ¶ Yna y daeth yr Iesu o Galilea i'r Iorddonen at Ioan, i'w fedyddio ganddo.

14 Eithr Ioan a warafunodd iddo ef, gan ddywedyd, Y mae arnaf fi eisieu fy medyddio gennyt ti, ac a ddeui di attaf fi?

15 Ond yr Iesu a attebodd ac a ddywedodd wrtho ef, Gâd yr awrhon; canys fel hyn y mae yn weddus i ni gyflawni pob cyfiawnder. Yna efe a adawodd iddo.

16 A'r Iesu, wedi ei fedyddio, a aeth yn y fan i fynu o'r dwfr: ac wele, y nefoedd a agorwyd iddo, ac efe a welodd Yspryd Duw yn disgyn fel colommen, ac yn dyfod arno ef.

17 Ac wele lef o'r nefoedd, yn dywedyd, Hwn yw fy anwyl Fab, yn yr hwn y'm boddlonwyd.


PENNOD IV.

1 Ympryd Crist, a'i demtiad. 11 Yr angelion yn gweini iddo. 13 Efe yn trigo yn Capernaum, 17 yn dechreu pregethu, 18 yn galw Petr ac Andreas, 21 Iago ac Ioan; 23 ac yn iachâu yr holl gleifion.

1 YNA yr Iesu a arweiniwyd i fynu i'r anialwch gan yr yspryd, i'w demtio gan ddiafol.

2 Ac wedi iddo ymprydio ddeugain niwrnod a deugain nos, ar ol hynny efe a newynodd.

3 A'r temtiwr pan ddaeth atto, a ddywedodd, Os mab Duw wyt ti, arch i'r cerrig hyn fod yn fara.

4 Ac yntau a attebodd ac a ddywedodd, Ysgrifenwyd, Nid trwy fara yn unig y bydd byw dyn, ond trwy bob gair a ddaw allan o enau Duw.

5 Yna y cymmerth diafol ef i'r ddinas sanctaidd, ac a'i gosododd ef ar binacl y deml;

6 Ac a ddywedodd wrtho, Os mab Duw wyt ti, bwrw dy hun i lawr; canys ysgrifenwyd, Y rhydd efe