Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Testament Newydd ein Harglwydd a'n Hiachawdwr Iesu Grist.djvu/111

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

chwi a welwch ac a wyddoch o honoch eich hun, fod yr haf yn agos.

31 Felly chwithau, pan weloch y pethau hyn yn digwydd, gwybyddwch fod teyrnas Dduw yn agos.

32 Yn wir meddaf i chwi, Nid â yr oes hon heibio, hyd oni ddêl y cwbl i ben.

33 Y nef a'r ddaear a ânt heibio; ond fy ngeiriau i nid ânt heibio ddim.

34 ¶ Ac edrychwch arnoch eich hunain, rhag i'ch calonnau un amser drymhâu trwy lythineb, a meddwdod, a gofalon y bywyd hwn, a dyfod y dydd hwnnw arnoch yn ddisymmwth;

35 Canys efe a ddaw, fel magl, ar warthaf pawb oll a'r sydd yn trigo ar wyneb yr holl ddaear.

36 Gwyliwch gan hynny a gweddiwch bob amser, ar gael eich cyfrif yn deilwng i ddïange rhag y pethau hyn oll sydd ar ddyfod, ac i sefyll ger bron Mab y dyn.

37 A'r dydd yr ydoedd efe yn athrawiaethu yn y deml; a'r nos yr oedd efe yn myned ac yn aros yn y mynydd a elwid yr Olew-wydd.

38 A'r holl bobl a fore-gyrchent atto ef yn y deml, i'w glywed ef.

PENNOD XXII.

1 Yr Iuddewon yn cyd-fwriadu yn erbyn Crist. 3 Satan yn parottoi Judas i'w fradychu ef. 7 Yr apostolion yn arlwyo y pasc. 19 Crist yn ordeinio ei swpper sanctaidd 21 yn guddiedig yn rhagddywedyd am y bradychwr: 24 yn annog y rhan arall o'i apostolion i ochelyd rhyfyg: 31 yn sicrhâu Petr na phallai ei ffydd ef: 34 ac er hynny y gwadai efe ef dair gwaith: 39 yn gweddio yn y mynydd; ac yn chwysu y gwaed: 47 yn cael ei fradychu â chusan: 50 yn iachâu clust Malchus: 54 yn cael ei wadu dair gwaith gan Petr, 63 a'i ammherchi yn gywilyddus; 66 ac yn cyfaddef ei fod yn Fab Duw.

A NESAODD gwyl y bara croyw, Α yr hon a elwir y pasc.

2 A'r arch-offeiriaid a'r ysgrifenyddion a geisiasant pa fodd y difethent ef: oblegid yr oedd arnynt ofn y bobl.

3 ¶ A Satan a aeth i mewn i Judas, yr hwn a gyfenwid Iscariot, yr hwn oedd o rifedi y deuddeg.

4 Ac efe a aeth ymaith, ac a ymddiddanodd â'r arch-offeiriaid a'r blaenoriaid, pa fodd y bradychai efe ef iddynt.

5 Ac yr oedd yn llawen ganddynt: a hwy a gyttunasant ar roddi arian iddo.

6 Ac efe a addawodd, ac a geisiodd amser cyfaddas i'w fradychu ef iddynt yn absen y bobl.

7 ¶ A daeth dydd y bara croyw, ar hwn oedd rhaid lladd y pasc.

8 Ac efe a anfonodd Petr ac Ioan, gan ddywedyd, Ewch, parottowch i ni y pasc, fel y bwyttaom.

9 A hwy a ddywedasant wrtho, Pa le y mynni barottôi o honom?

10 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Wele, pan ddeloch i mewn i'r ddinas, cyferfydd â chwi ddyn yn dwyn ystenaid o ddwfr: canlynwch ef i'r ty lle yr êl efe i mewn.

11 A dywedwch wrth wr y tŷ, Y mae yr Athraw yn dywedyd wrthyt, Pa le y mae y lletty, lle y gallwyf fwytta y pasc gyd a'm disgyblion?.

12 Ac efe a ddengys i chwi oruwch-ystafell fawr, wedi ei thaenu: yno parottowch.

13 A hwy a aethant, ac a gawsant fel y dywedasai efe wrthynt; ac a barottoisant y pasc.

14 A phan ddaeth yr awr, efe a eisteddodd i lawr, a'r deuddeg apostol gyd âg ef.

15 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Mi a chwennychais yn fawr fwytta y pasc hwn gyd â chwi cyn dioddef o honof.

16 Canys yr ydwyf yn dywedyd i chwi, Ni fwyttâf fi mwyach o hono, hyd oni chyflawner yn nheyrnas Dduw.

17 Ac wedi iddo gymmeryd y cwppan, a rhoddi diolch, efe a ddywedodd, Cymmerwch hwn, a rhennwch yn eich plith:

18 Canys yr ydwyf yn dywedyd i chwi, nad yfaf o ffrwyth y winwydden, hyd oni ddêl teyrnas Dduw.

19 Ac wedi iddo gymmeryd bara, a rhoi diolch, efe a'i torrodd, ac a'i rhoddes iddynt, gan ddywedyd, Hwn yw fy nghorph yr hwn yr ydys yn ei roddi drosoch: gwnewch hyn er coffa am danaf.

20 Yr un modd y cwppan hefyd wedi swpperu, gan ddywedyd, Y cwppan hwn yw y testament new-