ydd yn fy ngwaed i, yr hwn yr ydys yn ei dywallt drosoch.
21 ¶ Eithr wele law yr hwn sydd yn fy mradychu gyd â mi ar y bwrdd.
22 Ac yn wir y mae Mab y dyn yn myned, megis y mae wedi ei luniaethu eithr gwae y dyn hwnnw, trwy yr hwn y bradychir ef!
23 Hwythau a ddechreuasant ymofyn yn eu plith eu hunain, pwy o honynt oedd yr hwn a wnai hynny.
24 ¶ A bu ymryson yn eu plith, pwy o honynt a dybygid ei fod yn fwyaf.
25 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Y mae brenhinoedd y Cenhedloedd yn arglwyddiaethu arnynt; a'r rhai sydd mewn awdurdod arnynt, a elwir yn bendefigion.
26 Ond na fyddwch chwi felly: eithr y mwyaf yn eich plith chwi, bydded megis yr ieuangaf; a'r pennaf, megis yr hwn sydd yn gweini.
27 Canys pa un fwyaf, ai yr hwn sydd yn eistedd ar y bwrdd, ai yr hwn sydd yn gwasanaethu? onid yr hwn sydd yn eistedd ar y bwrdd? eithr yr ydwyf fi yn eich mysg fel un yn gwasanaethu.
28 A chwychwi yw y rhai a arhosasoch gyd â mi yn fy mhrofedigaethau.
29 Ac yr wyf fi yn ordeinio i chwi deyrnas, megis yr ordeiniodd fy Nhad i minnau;
30 Fel y bwyttaoch ac yr yfoch ar fy mwrdd i yn fy nheyrnas, ac yr eisteddoch ar orseddfeydd, yn barnu deuddeg llwyth Israel.
31 ¶ A'r Arglwydd a ddywedodd, Simon, Simon, wele, Satan a'ch ceisiodd chwi, i'ch nithio fel gwenith:
32 Eithr mi a weddïais drosot, na ddiffygiai dy ffydd di: tithau pan y'th dröer, cadarnhâ dy frodyr.
33 Ac efe a ddywedodd wrtho, Arglwydd, yr ydwyf fi yn barod i fyned gyd â thi i garchar, aci angau.
34 Yntau a ddywedodd, Yr wyf yn dywedyd i ti, Petr, Na chân y ceiliog heddyw, nes i ti wadu dair gwaith yr adweini fi.
35 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pan y'ch anfonais heb na phwrs, na Bradychu Crist. chôd, nac esgidiau, a fo arnoch eisieu dim? A hwy a ddywedasant, Na ddo ddim.
36 Yna y dywedodd wrthynt, Ond yn awr y neb sydd ganddo bwrs, cymmered; a'r un modd god: a'r neb nid oes ganddo, gwerthed ei bais, a phryned gleddyf.
37 Canys yr wyf yn dywedyd i chwi, fod yn rhaid etto gyflawni ynof fi y peth hwn a ysgrifenwyd; sef, A chyd a'r anwir y cyfrifwyd ef; canys y mae diben i'r pethau am danaf fi.
38 A hwy a ddywedasant, Arglwydd, wele ddau gleddyf yma. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Digon yw.
39 ¶ Ac wedi iddo fyned allan, efe a aeth, yn ol ei arfer, i fynydd yr Olew-wydd; a'i ddisgyblion hefyd a'i canlynasant ef.
40 A phan ddaeth efe i'r man, efe a ddywedodd wrthynt, Gweddiwch nad eloch mewn profedigaeth.
41 Ac efe a dynnodd oddi wrthynt tu ag ergyd carreg; ac wedi iddo fyned ar ei liniau, efe a weddïodd,
42 Gan ddywedyd, O Dad, os ewyllysi droi heibio y cwppan hwn oddi wrthyf: er hynny nid fy ewyllys i, ond yr eiddot ti a wneler.
43 Ac angel o'r nef a ymddangosodd iddo, yn ei nerthu ef.
44 Ac efe mewn ymdrech meddwl, a weddiodd yn ddyfalach: a'i chwys ef oedd fel defnynau gwaed yn disgyn ar y ddaear.
45 A phan gododd efe o'i weddi, a dyfod at ei ddisgyblion, efe a'u cafodd hwynt yn cysgu gan dristwch;
46 Ac a ddywedodd wrthynt, Paham yr ydych yn cysgu? codwch, a gweddiwch nad eloch mewn profedigaeth.
47 ¶ Ac efe etto yn llefaru, wele dyrfa; a'r hwn a elwir Judas, un o'r deuddeg, oedd yn myned o'u blaen hwynt, ac a nesaodd at yr Iesu, i'w gusanu ef.
48 A'r Iesu a ddywedodd wrtho, Judas, ai â chusan yr wyt ti yn bradychu Mab y dyn?
49 A phan welodd y rhai oedd yn ei gylch ef y peth oedd ar ddyfod, hwy a ddywedasant wrtho, Arglwydd, a darâwn ni â chleddyf?