Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Testament Newydd ein Harglwydd a'n Hiachawdwr Iesu Grist.djvu/114

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

lilea, efe a ofynodd ai Galilead oedd y dyn.

7 A phan wybu efe ei fod ef o lywodraeth Herod, efe a'i hanfonodd ef at Herod, yr hwn oedd yntau yn Jerusalem y dyddiau hynny.

8 ¶ A Herod, pan welodd yr Iesu, a lawenychodd yn fawr: canys yr oedd efe yn chwennych er ys talm ei weled ef, oblegid iddo glywed llawer am dano ef; ac yr ydoedd yn gobeithio cael gweled gwneuthur rhyw arwydd ganddo ef.

9 Ac efe a'i holodd ef mewn llawer o eiriau; eithr efe nid attebodd ddim iddo.

10 A'r arch-offeiriaid a'r ysgrifenyddion a safasant, gan ei gyhuddo ef yn haerllug.

11 A Herod a'i filwyr, wedi iddo ei ddïystyru ef, a'i watwar, a'i wisgo â gwisg glaerwen, a'i danfonodd ef drachefn at Pilat.

12 ¶ A'r dwthwn hwnnw yr aeth Pilat a Herod yn gyfeillion: canys yr oeddynt o'r blaen mewn gelyniaeth â'u gilydd.

13 ¶ A Philat, wedi galw ynghyd yr arch-offeiriaid, a'r llywiawdwyr, a'r bobl,

14 A ddywedodd wrthynt, Chwi a ddygasoch y dyn hwn attaf fi, fel un a fyddai yn gŵyrdroi y bobl: ac wele, myfi a'i holais ef yn eich gŵydd chwi, ac ni chefais yn y dyn hwn ddim bai, o ran y pethau yr ydych chwi yn ei gyhuddo ef am danynt:

15 Na Herod chwaith: canys anfonais chwi atto ef; ac wele, dim yn haeddu marwolaeth nis gwnaed iddo.

16 Am hynny mi a'i ceryddaf ef, ac a'i gollyngaf ymaith.

17 Canys yr ydoedd yn rhaid iddo ollwng un yn rhydd iddynt ar yr wyl.

18 A'r holl laws a lefasant ar unwaith, gan ddywedyd, Bwrw hwn ymaith, a gollwng i ni Barabbas yn rhydd:

19 (Yr hwn, am ryw derfysg a wnaethid yn y ddinas, a llofruddiaeth, oedd wedi ei daflu i garchar.)

20 Am hynny Pilat a ddywedodd wrthynt drachefn, gan ewyllysio-gollwng yr Iesu yn rhydd.

21 Eithr hwy a lefasant arno, gan ddywedyd, Croeshoelia, croeshoelia ef.

22 Ac efe a ddywedodd wrthynt y drydedd waith, Canys pa ddrwg a wnaeth efe? ni chefais i ddim achos marwolaeth ynddo; am hynny mi a'i ceryddaf ef, ac a'i gollyngaf yn rhydd.

23 Hwythau a fuont daerion â llefau uchel, gan ddeisyfu ei groeshoelio ef. A'u llefau hwynt a'r archoffeiriaid a orfuant.

24 A Philat a farnodd wneuthur eu deisyfiad hwynt.

25 Ac efe a ollyngodd yn rhydd iddynt yr hwn am derfysg a llofruddiaeth a fwriasid y'ngharchar, yr hwn a ofynasant: eithr yr Iesu a draddododd efe i'w hewyllys hwynt.

26 Ac fel yr oeddynt yn ei arwain ef ymaith, hwy a ddaliasant un Simon o Cyrene, yn dyfod o'r wlad, ac a ddodasant y groes arno ef, i'w dwyn ar ol yr Iesu.

27 ¶ Ac yr oedd yn ei ganlyn ef laws mawr o bobl, ac o wragedd, y rhai hefyd oedd yn cwynfan ac yn galaru o'i blegid ef.

28 A'r Iesu, wedi troi attynt, a ddywedodd, Merched Jerusalem, na wylwch o'm plegid i: eithr wylwch o'ch plegid eich hunain, ac oblegid eich plant.

29 Canys wele, y mae y dyddiau yn dyfod, yn y rhai y dywedant, Gwyn eu byd y rhai ammhlantadwy, a'r crothau ni eppiliasant, a'r bronnau ni roisant sugn.

30 Yna y dechreuant ddywedyd wrth y mynyddoedd, Syrthiwch arnom; ac wrth y bryniau, Cuddiwch ni.

31 Canys os gwnant hyn yn y pren ir, pa beth a wneir yn y crin?

32 Ac arweiniwyd gyd âg ef hefyd ddau eraill, drwg-weithredwyr, i'w rhoi i'w marwolaeth.

33 A phan ddaethant i'r lle a elwir Calfaria, yno y croeshoeliasant ef, a'r drwg-weithredwyr; un ar y llaw ddehau, a'r llall ar yr aswy.

34 ¶ A'r Iesu a ddywedodd, O Dad, maddeu iddynt: canys ni wyddant pa beth y maent yn ei wneuthur. A hwy a rannasant ei ddillad ef, ac a fwriasant goelbren.