Tudalen:Testament Newydd ein Harglwydd a'n Hiachawdwr Iesu Grist.djvu/153

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

clywed hwynt bob un yn ein hiaith ein hun, yn yr hon y'n ganed ni?

9 Parthiaid, a Mediaid, ac Elamitiaid, a thrigolion Mesopotamia, a Judea, a Chappadocia, Pontus, ac Asia,

10 Phrygia, a Phamphylia, yr Aipht, a pharthau Libya, yr hon sydd ger llaw Cyrene, a dieithriaid o Rufeinwyr, Iuddewon, a phroselytiaid,

11 Cretiaid, ac Arabiaid, yr ydym ni yn eu clywed hwynt yn llefaru yn ein hiaith ni fawrion weithredoedd Duw.

12 A synnasant oll, ac a ammheu- asant, gan ddywedyd y naill wrth y llall, Beth a all hyn fod?

13 Ac eraill, gan watwar, a ddywedasant, Llawn o win melus ydynt.

14 Eithr Petr, yn sefyll gyd a'r un ar ddeg, a gyfododd ei leferydd, ac a ddywedodd wrthynt, O wŷr Iuddewon, a chwi oll sydd yn trigo yn Jerusalem, bydded hysbysol hyn i chwi, a chlust-ymwrandewch a'm geiriau:

15 Canys nid yw y rhai hyn yn feddwon, fel yr ydych chwi yn tybied; oblegid y drydedd awr o'r dydd yw hi.

16 Eithr hyn yw y peth a ddywedwyd trwy y prophwyd Joel;

17 A bydd yn y dyddiau diweddaf, medd Duw, y tywalltaf o'm Hyspryd ar bob cnawd: a'ch meibion chwi a'ch merched a brophwydant, a'ch gwŷr ieuainge a welant weledigaethau, a'ch hynafgwŷr a freuddwydiant freuddwydion:

18 Ac ar fy ngweision ac ar fy llaw-forwynion y tywalltaf o'm Hyspryd yn y dyddiau hynny; a hwy a brophwydant:

19 A mi a roddaf ryfeddodau yn y nef uchod, ac arwyddion yn y ddaear isod; gwaed, a thân, a tharth mwg.

20 Yr haul a droir yn dywyllwch, a'r lloer yn waed, cyn i ddydd mawr ac eglur yr Arglwydd ddyfod.

21 A bydd, pwy bynnag a alwo ar enw yr Arglwydd, a fydd cadwedig.

22 Ha wyr Israel, clywch y geiriau hyn; Iesu o Nazareth, gwr profedig gan Dduw yn eich plith chwi, trwy nerthoedd a rhyfeddodau ac arwyddion, y rhai a wnaeth Duw trwyddo ef yn eich canol chwi, megis ag y gwyddoch, chwithau:

23 Hwn, wedi ei roddi trwy derfynedig gynghor a rhag-wybodaeth Duw, a gymmerasoch chwi, a thrwy ddwylaw anwir a groeshoeliasoch, ac a laddasoch:

24 Yr hwn a gyfododd Duw, gan ryddhâu gofidiau angau: canys nid oedd bosibl ei attal ef ganddo.

25 Canys Dafydd sydd yn dywedyd am dano, Rhag-welais yr Arglwydd ger fy mron yn wastad; canys ar fy neheulaw y mae, fel na'm hysgoger.

26 Am hynny y llawenychodd fy nghalon, ac y gorfoleddodd fy nhafod; ie, a'm cnawd hefyd a orphwys mewn gobaith:

27 Am na adewi fy enaid yn uffern, ac na oddefi i'th Sanct weled llygredigaeth.

28 Gwnaethost yn hysbys i mi ffyrdd y bywyd: ti a'm cyflawni o lawenydd a'th wynebpryd.

29 Ha wyr frodyr, y mae yn rhydd i mi ddywedyd yn hŷf wrthych am y patriarch Dafydd, ei farw ef a'i gladdu, ac y mae ei feddrod ef gyd â ni hyd y dydd hwn.

30 Am hynny, ac efe yn brophwyd, yn gwybod dyngu o Dduw iddo trwy lw, Mai o ffrwyth ei lwynau ef o ran y cnawd, y cyfodai efe Grist i eistedd ar ei orseddfa ef:

31 Ac efe yn rhag-weled, a lefarodd am adgyfodiad Crist, na adawyd ei enaid ef yn uffern, ac nas gwelodd ei gnawd ef lygredigaeth.

32 Yr Iesu hwn a gyfododd Duw i fynu; o'r hyn yr ydym ni oll yn dystion.

33 Am hynny, wedi ei ddyrchafu ef trwy ddeheulaw Duw, ac iddo dderbyn gan y Tad yr addewid o'r Yspryd Glân, efe a dywalltodd y peth yma yr ydych chwi yr awrhon yn ei weled ac yn ei glywed.

34 Oblegid ni ddyrchafodd Dafydd i'r nefoedd: ond y mae efe yn dywedyd ei hun, Yr ARGLWYDD a ddywedodd wrth fy Arglwydd, Eistedd ar fy neheulaw,

35 Hyd oni osodwyf dy elynion yn droed-faingc i'th draed.