Tudalen:Testament Newydd ein Harglwydd a'n Hiachawdwr Iesu Grist.djvu/24

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

sydd yn ffrwytho, ac yn dwyn peth ei ganfed, arall ei dri-ugeinfed, arall ei ddegfed ar hugain.

24 ¶ Dammeg arall a osododd efe iddynt, gan ddywedyd, Teyrnas nefoedd sydd gyffelyb i ddyn a hauodd had da yn ei faes:

25 A thra yr oedd y dynion yn cysgu, daeth ei elyn ef, ac a hauodd efrau ym mhlith y gwenith, ac a aeth ymaith.

26 Ac wedi i'r eginyn dyfu, a dwyn ffrwyth, yna yr ymddangosodd yr efrau hefyd.

27 A gweision gwr y tŷ a ddaethant, ac a ddywedasant wrtho, Arglwydd, oni hauaist di had da yn dy faes? o ba le gan hynny y mae yr efrau ynddo?

28 Yntau a ddywedodd wrthynt, Y gelyn ddyn a wnaeth hyn. gweision a ddywedasant wrtho, A fynni di gan hynny i ni fyned a'u casglu hwynt?

29 Ac efe a ddywedodd, Na fynnaf; rhag i chwi, wrth gasglu yr efrau, ddiwreiddio y gwenith gyd â hwynt.

30 Gadêwch i'r ddau gyd-dyfu hyd y cynhauaf: ac yn amser y cynhauaf y dywedaf wrth y medelwyr, Cesglwch yn gyntaf yr efrau, a rhwymwch hwynt yn ysgubau i'w llwyrlosgi; ond cesglwch y gwenith i'm hysgubor.

31 ¶ Dammeg arall a osododd efe iddynt, gan ddywedyd, Cyffelyb yw teyrnas nefoedd i ronyn o had mwstard, yr hwn a gymmerodd dyn, ac a'i hauodd yn ei faes:

32 Yr hwn yn wir sydd leiaf o'r holl hadau; ond wedi iddo dyfu, mwyaf un o'r llysiau ydyw, ac y mae efe yn myned yn bren; fel y mae adar y nef yn dyfod, ac yn nythu yn ei gangau ef.

33 ¶ Dammeg arall a lefarodd efe wrthynt; Cyffelyb yw teyrnas nefoedd i surdoes, yr hwn a gymmerodd gwraig, ac a'i cuddiodd mewn tri pheccaid o flawd, hyd oni surodd y cwbl.

34 Hyn oll a lefarodd yr Iesu trwy ddamhegion wrth y torfeydd; ac heb ddammeg ni lefarodd efe wrthynt;

35 Fel y cyflawnid yr hyn a ddywedwyd trwy y prophwyd, gan ddywedyd, Agoraf fy ngenau mewn damhegion; mynegaf bethau cuddiedig er pan seiliwyd y byd.

36 ¶ Yna yr anfonodd yr Iesu y torfeydd ymaith, ac yr aeth i'r tŷ: a'i ddisgyblion a ddaethant atto, gan ddywedyd, Eglura i ni ddammeg efrau y maes.

37 Ac efe a attebodd ac a ddywedodd wrthynt, Yr hwn sydd yn hau yr had da, yw Mab y dyn;

38 A'r maes yw y byd; a'r had da, hwynt-hwy yw plant y deyrnas; a'r efrau yw plant y drwg;

39 A'r gelyn yr hwn a'u hauodd hwynt, yw diafol; a'r cynhauaf yw diwedd y byd; a'r medelwyr yw yr angelion.

40 Megis gan hynny y cynhullir yr efrau, ac a'u llwyr-losgir yn tân; felly y bydd yn niwedd y byd hwn.

41 Mab y dyn a ddenfyn ei angelion, a hwy a gynhullant allan o'i deyrnas ef yr holl dramgwyddiadau, a'r rhai a wnant anwiredd;

42 Ac a'u bwriant hwy i'r ffwrn dân yno y bydd wylofain a rhingcian dannedd.

43 Yna y llewyrcha y rhai cyfiawn fel yr haul, yn nheyrnas eu Tad. Yr hwn sydd ganddo glustiau i wrandaw, gwrandawed.

44 ¶ Drachefn, cyffelyb yw teyrnas nefoedd i drysor wedi ei guddio mewn maes; yr hwn wedi i ddyn ei gaffael, a'i cuddiodd, ac o lawenydd am dano, sydd yn myned ymaith, ac yn gwerthu yr hyn oll a fedd, ac yn prynu y maes hwnnw.

45 ¶ Drachefn, cyffelyb yw teyrnas nefoedd i farchnattâwr, yn ceisio perlau teg:

46 Yr hwn wedi iddo gaffael un perl gwerthfawr, a aeth, ac a werthodd gymmaint oll ag a feddai, ac a'i prynodd ef.

47 ¶ Drachefn, cyffelyb yw teyrnas nefoedd i rwyd a fwriwyd yn y môr, ac a gasglodd o bob rhyw beth:

48 Yr hon, wedi ei llenwi, a ddygasant i'r làn, ac a eisteddasant, ac a gasglasant y rhai da mewn llestri, ac a fwriasant allan y rhai drwg,