Tudalen:Testament Newydd ein Harglwydd a'n Hiachawdwr Iesu Grist.djvu/31

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

17 Ac os efe ni wrendy arnynt hwy, dywed i'r eglwys: ac os efe ni wrendy ar yr eglwys chwaith, bydded ef i ti megis yr ethnig a'r publican.

18 Yn wir meddaf i chwi, Pa bethau bynnag a rwymoch ar y ddaear fyddant wedi eu rhwymo yn y nef: a pha bethau bynnag a ryddhaoch ar y ddaear, a fyddant wedi eu rhyddhâu yn y nef.

19 Trachefn meddaf i chwi, Os cydsynia dau o honoch ar y ddaear am ddim oll beth bynnag a'r a ofynant, efe a wneir iddynt gan fy Nhad yr hwn sydd yn y nefoedd.

20 Canys lle mae dau neu dri wedi ymgynnull yn fy enw i, yno yr ydwyf yn eu canol hwynt.

21 ¶ Yna y daeth Petr atto ef, ac a ddywedodd, Arglwydd, pa sawl gwaith y pecha fy mrawd i'm herbyn, ac y maddeuaf iddo? ai hyd seithwaith?

22 Yr Iesu a ddywedodd wrtho, Nid ydwyf yn dywedyd wrthyt, Hyd seithwaith; ond, Hyd ddengwaith a thri ugain seithwaith.

23 ¶ Am hynny y cyffelybir teyrnas nefoedd i ryw frenhin a fynnai gael cyfrif gan ei weision.

24 A phan ddechreuodd gyfrif, fe a ddygwyd atto un a oedd yn ei ddyled ef o ddeng mil o dalentau.

25 A chan nad oedd ganddo ddim i dalu, gorchymynodd ei arglwydd ei werthu ef, a'i wraig, a'i blant, a chwbl a'r a feddai, a thalu y ddyled.

26 A'r gwas a syrthiodd i lawr, ac a'i haddolodd ef, gan ddywedyd, Arglwydd, bydd ymarhous wrthyf, a mi a dalaf i ti y cwbl oll.

27 Ac arglwydd y gwas hwnnw a dosturiodd wrtho, ac a'i gollyngodd, ac a faddeuodd iddo y ddyled.

28 Ac wedi myned o'r gwas hwnnw allan, efe a gafodd un o'i gydweision, yr hwn oedd yn ei ddyled ef o gàn ceiniog: ac efe a ymaflodd ynddo, ac a'i llindagodd, gan ddywedyd, Tâl i mi yr hyn sydd ddyledus arnat.

29 Yna y syrthiodd ei gyd-was wrth ei draed ef, ac a ymbiliodd âg ef, gan ddywedyd, Bydd ymarhous wrthyf, a mi a dalaf i ti y cwbl oll.

30 Ac nis gwnai efe; ond myned a'i fwrw ef y'ngharchar, hyd oni thalai yr hyn oedd ddyledus.

31 A phan welodd ei gyd-weision y pethau a wnelsid, bu ddrwg dros ben ganddynt: a hwy a ddaethant, ac a fynegasant i'w harglwydd yr holl bethau a fuasai.

32 Yna ei arglwydd, wedi ei alw ef atto, a ddywedodd wrtho, Ha was drwg, maddeuais i ti yr holl ddyled honno, am i ti ymbil à mi:

33 Ac oni ddylesit tithau drugarhâu wrth dy gyd-was, megis y trugarheais innau wrthyt ti?

34 A'i arglwydd a ddigiodd, ac a'i rhoddodd ef i'r poenwyr, hyd oni thalai yr hyn oll oedd ddyledus iddo. 35 Ac felly y gwna fy Nhad nefol i chwithau, oni faddeuwch o'ch calonnau bob un i'w frawd eu camweddau.

PENNOD XIX.

2 Crist yn iachâu y cleifion: 3 yn atteb y Phariseaid am ysgariaeth: 10 yn dangos pa bryd y mae priodas yn angenrheidiol: 13 yn derbyn plant bychain: 16 yn dysgu i'r gwr ieuangc y modd i gael bywyd tragywyddol, 20 ac i fod yn berffaith: 23 yn dywedyd i'w ddisgyblion mor anhawdd ydyw i'r goludog fyned i mewn i deyrnas Dduw; 27 ac yn addaw gwobr i'r sawl a ymadawant & dim er mwyn ei ganlyn ef.

A BU, pan orphenodd yr Iesu yr ymadroddion hyn efe gadawodd o Galilea, ac a ddaeth i derfynau Judea, tu hwnt i'r Iorddonen:

2 A thorfeydd lawer a'i canlynasant ef; ac efe a'u hiachaodd hwynt yno.

3 ¶ A daeth y Phariseaid atto, gan ei demtio, a dywedyd wrtho, Ai cyfreithlawn i wr ysgar â'i wraig am bob achos?

4 Ac efe a attebodd ac a ddywedodd wrthynt, Oni ddarllenasoch, i'r hwn a'u gwnaeth o'r dechreu, eu gwneuthur hwy yn wrryw a benyw?

5 Ac efe a ddywedodd, Oblegid hyn y gâd dyn dad a mam, ac y glŷn wrth ei wraig: a'r ddau fyddant yn un cnawd.

6 O herwydd paham, nid ydynt mwy yn ddau, ond yn un cnawd. Y peth gan hynny a gyssylltodd Duw, na ysgared dyn.

7 Hwythau a ddywedasant wrtho, Paham gan hynny y gorchymynodd Moses roddi llythyr ysgar, a'i gollwng hi ymaith?