Tudalen:Testament Newydd ein Harglwydd a'n Hiachawdwr Iesu Grist.djvu/32

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

8 Yntau a ddywedodd wrthynt, Moses, o herwydd caledrwydd eich calonnau, a oddefodd i chwi ysgar â'ch gwragedd: eithr o'r dechreu nid felly yr oedd.

9 Ac meddaf i chwi, Pwy bynnag a ysgaro â'i wraig, ond am odineb, ac a briodo un arall, y mae efe yn torri priodas: ac y mae yr hwn a briodo yr hon a ysgarwyd, yn torri priodas.

10 ¶ Dywedodd ei ddisgyblion wrtho, Os felly y mae yr achos rhwng gŵr a gwraig, nid da gwreicca.

11 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Nid yw pawb yn derbyn y gair hwn, ond y rhai y rhoddwyd iddynt.

12 Canys y mae eunuchiaid a aned felly o groth eu mam; ac y mae eunuchiaid a wnaed gan ddynion yn eunuchiaid; ac y mae eunuchiaid a'u gwnaethant eu hun yn eunuchiaid er mwyn teyrnas nefoedd. Y neb a ddichon ei dderbyn, derbynied.

13 ¶ Yna y dygwyd atto blant bychain, fel y rhoddai ei ddwylaw arnynt, ac y gweddiai: a'r disgyblion a'u ceryddodd hwynt.

14 A'r Iesu a ddywedodd, Gadêwch i blant bychain, ac na waherddwch iddynt ddyfod attaf fi: canys eiddo y cyfryw rai yw teyrnas nefoedd.

15 Ac wedi iddo roddi ei ddwylaw arnynt, efe a aeth ymaith oddi yno.

16 ¶ Ac wele, un a ddaeth, ac a ddywedodd wrtho, Athraw da, pa beth da a wnaf, fel y caffwyf fywyd tragywyddol?

17 Yntau a ddywedodd wrtho, Paham y gelwi fi yn dda? nid da neb ond un, sef Duw: ond os ewyllysi fyned i mewn i'r bywyd, cadw y gorchymynion.

18 Efe a ddywedodd wrtho yntau, Pa rai? A'r lesu a ddywedodd, Na ladd, Na odineba, Na ladratta, Na ddwg gam dystiolaeth,

19 Anrhydedda dy dad a'th fam, a Châr dy gymmydog fel ti dy hun.

20 Y gwr ieuangc a ddywedodd wrtho, Mi a gedwais y rhai hyn oll o'm hieuengetid: beth sydd yn eisieu i mi etto?

21 Yr Iesu a ddywedodd wrtho, Os ewyllysi fod yn berffaith, dos, gwerth yr hyn sydd gennyt, a dyro i'r tlodion; a thi a gei drysor yn y nef: a thyred, canlyn fi.

22 A phan glybu y gwr ieuangc yr ymadrodd, efe a aeth i ffordd yn drist: canys yr oedd yn berchen dâ lawer.

23 ¶ Yna y dywedodd yr Iesu wrth ei ddisgyblion, Yn wir y dywedaf i chwi, mai yn anhawdd yr â goludog i mewn i deyrnas nefoedd.

24 A thrachefn meddaf i chwi, Haws yw i gamel fyned trwy grai y nodwydd ddur, nag i oludog fyned i mewn i deyrnas Dduw.

25 A phan glybu ei ddisgyblion ef hyn, synnu a wnaethant yn ddirfawr, gan ddywedyd, Pwy gan hynny a all fod yn gadwedig?

26 A'r Iesu a edrychodd arnynt, ac a ddywedodd wrthynt, Gyd â dynion ammhosibl yw hyn; ond gyd â Duw pob peth sydd bosibl.

27 ¶ Yna Petr a attebodd ac a ddywedodd wrtho, Wele, nyni a adawsom bob peth, ac a'th ganlynasom di: beth gan hynny a fydd i ni?

28 A'r Iesu a ddywedodd wrthynt, Yn wir meddaf i chwi, y cewch chwi, y rhai a'm canlynasoch i, yn yr adenedigaeth, pan eisteddo Mab y dyn ar orsedd ei ogoniant, eistedd chwithau ar ddeuddeg gorsedd, yn barnu deuddeg llwyth Israel.

29 A phob un a'r a adawodd dai, neu frodyr, neu chwiorydd, neu dad, neu fam, neu wraig, neu blant, neu diroedd, er mwyn fy enw i, a dderbyn y càn cymmaint, a bywyd tragywyddol a etifedda efe.

30 Ond llawer o'r rhai blaenaf a fyddant yn olaf, a'r rhai olaf yn flaenaf.

PENNOD XX.

1 Crist, trwy ddammeg y gweithwyr yn y winllan, yn dangos nad ydyw Duw yn ddyledwr i neb: 17 yn rhag-fynegi ei ddioddefaint: 20 trwy atteb i fam meibion Zebedëus, yn dysgu i'w ddisgyblion fod yn ostyngedig; 30 ac yn rhoddi i ddau ddyn dall eu golwg.

CANYS teyrnas nefoedd sydd debyg i wr o berchen tŷ, yr hwn a aeth allan a hi yn dyddhâu, i gyflogi gweithwyr i'w winllan.

2 Ac wedi cyttuno â'r gweithwyr er ceiniog y dydd, efe a'u hanfonodd hwy i'w winllan.