Nid oes neb a'r sydd yn rhoi ei law ar yr aradr, ac yn edrych ar y pethau sydd o'i ol, yn gymmwys i deyrnas Dduw.
PENNOD X.
1 Crist yn anfon allan ar unwaith ddeg disgybl a thri ugain i wneuthur gwyrthiau, ac i bregethu; 17 yn eu rhybuddio hwy i fod yn ostyngedig, ac ym mha beth y gorfoleddent: 21 yn diolch i'w Dad am ei ras: 23 yn mawrygu dedwydd gyflwr ei eglwys: 25 yn dysgu y cyfreithiwr y modd i gael bywyd tragywyddol, ac i gymmeryd pawb yn gymmydog iddo, a'r a fo ag eisieu ei drugaredd ef arno: 41 yn argyhoeddi Martha, ac yn canmol Mair ei chwaer hi.
WEDI y pethau hyn yr ordeiniodd yr Arglwydd ddeg a thri ugain eraill hefyd, ac a'u danfonodd hwynt bob yn ddau o flaen ei wyneb i bob dinas a man lle yr oedd efe ar fedr dyfod.
2 Am hynny efe a ddywedodd wrthynt, Y cynhauaf yn wir sydd fawr, ond y gweithwyr yn anaml: gweddiwch gan hynny ar Arglwydd y cynhauaf, am ddanfon allan weith- wyr i'w gynhauaf.
3 Ewch: wele, yr wyf fi yn eich danfon chwi fel ŵyn ym mysg bleiddiaid.
4 Na ddygwch god, nac ysgrepan, nac esgidiau; ac na chyferchwch well i neb ar y ffordd. 5 Ac i ba dŷ bynnag yr eloch i mewn, yn gyntaf dywedwch, Tangnefedd i'r tŷ hwn.
6 Ac o bydd yno fab tangnefedd, eich tangnefedd a orphwys arno: os amgen, hi a ddychwel attoch chwi.
7 Ac yn y tŷ hwnnw arhoswch, gan fwytta ac yfed y cyfryw bethau ag a gaffoch ganddynt: canys teilwng yw i'r gweithiwr ei gyflog. Na threiglwch o dŷ i dŷ.
8 A pha ddinas bynnag yr eloch iddi, a hwy yn eich derbyn, bwyttêwch y cyfryw bethau ag a rodder ger eich bronnau:
9 Ac iachêwch y cleifion a fyddo ynddi, a dywedwch wrthynt, Daeth teyrnas Dduw yn agos attoch.
10 Eithr pa ddinas bynnag yr eloch iddi, a hwy heb eich derbyn, ewch allan i'w heolydd, a dywedwch,
11 Hyd yn nod y llwch, yr hwn a lynodd wrthym o'ch dinas, yr ydym yn ei sychu ymaith i chwi: er hynny gwybyddwch hyn, fod teyrnas Dduw wedi nesâu attoch.
12 Eithr dywedaf wrthych, mai esmwythach fydd i Sodom yn y dydd hwnnw, nag i'r ddinas honno.
13 Gwae di, Chorazin! gwae di, Bethsaida canys pe gwnaethid yn Tyrus a Sidon y gweithredoedd nerthol a wnaethpwyd yn eich plith chwi, hwy a edifarhasent er ys talm, gan eistedd mewn sachlïan a lludw.
14 Eithr esmwythach fydd i Tyrus a Sidon yn y farn, nag i chwi. 15 A thithau, Capernaum, yr hon ddyrchafwyd hyd y nef, a dynnir i lawr hyd yn uffern.
16 Y neb sydd yn eich gwrandaw chwi, sydd yn fy ngwrandaw i; a'r neb sydd yn eich dirmygu chwi, sydd yn fy nirmygu i; a'r neb sydd yn fy nirmygu i, sydd yn dirmygu yr hwn a'm hanfonodd i.
17 ¶ A'r deg a thri ugain a ddychwelasant gyd â llawenydd, gan ddywedyd, Arglwydd, hyd yn nod y cythreuliaid a ddarostyngir i ni, yn dy enw di.
18 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Mi a welais Satan megis mellten, yn syrthio o'r nef.
19 Wele, yr ydwyf fi yn rhoddi i chwi awdurdod i sathru ar seirph ac ysgorpionau, ac ar holl gryfder y gelyn ac nid oes dim a wna ddim niwed i chwi.
20 Eithr yn hyn na lawenhêwch, fod yr ysprydion wedi eu darostwng ichwi; ond llawenhêwch yn hytrach, am fod eich enwau yn ysgrifenedig yn y nefoedd.
21 ¶ Yr awr honno yr Iesu a lawenychodd yn yr yspryd, ac a ddywedodd, Yr wyf yn diolch i ti, O Dad, Arglwydd nef a daear, am guddio o honot y pethau hyn oddi wrth y doethion a'r deallus, a'u datguddio o honot i rai bychain: yn wir, O Dad; oblegid felly y gwelid yn dda yn dy olwg di.
22 Pob peth a roddwyd i mi gan fy Nhad: ac ni ŵyr neb pwy yw y Mab, ond y Tad; na phwy yw y Tad, ond y Mab, a'r neb y mynno y Mab ei ddatguddio iddo.