Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Tir y Dyneddon.djvu/103

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

aur bellach oedd pob eiliad, hyd yn oed eiliadau'r Dyneddon, o gwmni'r creadur bach yn y deigryn. O'r diwedd diflannodd y deigryn yn hollol, a'r creadur bach afluniaidd a gydymdeimlai ag ef mor fawr, gydag ef, a daeth hiraeth amdano i lethu Di bron yn llwyr.

Crwydrai'n awr ymhellach o'i gynefin nag erioed gan feddwl a hiraethu ddydd a nos am y cyfaill bach a ddaeth unwaith i gydymdeimlo ag ef ei ofid. Ac mor fawr oedd ei ofid nes i'r dyneddon a'i gwawdiai gymaint fagu rhyw fath ar gydymdeimlad ag ef, canys curiai wrth ben ei draed.

Eisteddodd yn syn tan gysgod deilen redynen un min hwyr yn hiraethu am y creadur bach dieithr a gartrefai yn ei ddeigryn. Myfyriai beth oedd y rheswm na allai dynnu dwfr o'i lygaid drachefn pan fynnai, heb wybod na ddaw dagrau a'u gweledigaeth ond pan fyddo Ffynhonnau'r Dyfnder Mawr wedi rhwygo, ac ni ŵyr hyd yn oed dewin y Tir Tywyll (a ŵyr am y Rhosynnau Cudd), am y ffordd at Ffynhonnau'r Dyfnder Mawr. Cofiodd yn y man ddarfod iddo sylwi lawer gwaith fod diferion cyffelyb ar y ddaear bob bore braf yn yr haf y codai ef i grwydro'r tir er mwyn cael llonydd cyn i'r dyneddon eraill ddeffro. Penderfynodd chwilio amdanynt bore drannoeth. Cododd cyn i'm llygad agor, a theimlwn ef yn ymbalfalu am ei