Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Tir y Dyneddon.djvu/104

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ffordd ymlaen yn y tywyllwch. Agorais fy llygad yn ei dro, a gwelwn holl laswellt Tir y Dyneddon yn disgleirio dan berlau gwlith, a Di yn crwydro o un i un ac yn syllu i mewn iddynt, ac wrth godi oddiar y ddaear, rhyw dynerwch tebyg i wên ar ei wyneb oedd yn ddieithr iawn iddo ef, a goleuni newydd yn ei lygaid na welais erioed mohono o'r blaen ond unwaith. Yn llygaid mam y gwelais ef y tro hwnnw pan feddyliodd ychydig cyn i Annie Bach farw, ei bod yn dechreu troi ar wella. Ni welais y goleuni hwn yn ei lygaid o'r blaen hyd yn oed pan welodd creadur bach hwnnw yn ei ddeigryn. Gorweddai ar ei hyd o dro i dro yn ymyl hanner dwsin o'r diferion cyfrin hyn, a syllai'n hir a dwfn i bob un, a chan fod y darn rhew ar fy llygad, gwelwn gyfrinach y wedd newydd hon oedd arno. Ymhob un o'r diferion yr oedd creadur bach tebyg iddo ef ei hun, yn afluniaidd a hagr, a'r olwg ar wynebau'r creaduriaid hyn yr un ag a welid ar ei wyneb ef. Crwydrodd o'r naill i'r llall yn hir, ac ymfalchïai y tuhwnt i fesur wrth weled creadur bach ymhob un ohonynt. Yn y man dringodd i ben gwelltyn hwy na'i gilydd er mwyn medru gweled mwy nag un ar unwaith ohonynt. Gwelai oddiyno nifer fawr, a chreadur bach tebyg iddo ef ei hun ymhob un ohonynt,—a phob un yn cydvmdeimlo ag ef, ac yn edrych yn llariaidd arno fe yr edrychai ef arnynt hwy.