Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Tir y Dyneddon.djvu/105

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ni chafodd Di y fath gwmni erioed, a chynhyrchodd nid yn unig ryw ysgafnder newydd yn ei lygaid ond hoywder newydd yn ei gorff. Ciliodd oddiyno cyn i'r Dyneddon ei weled. Ni buont hwy'n hir heb sylwi bod rhyw hyfrydwch cudd ym mywyd Di na wyddent hwy ddim amdano. Cynhyddai'r hoywder newydd hwn o ddydd i ddydd, a chodai Di bob dydd cyn agor ohonof fy llygad, a'r peth cyntaf a welwn bob dydd oedd ef yn aros yn bryderus, ac yn dechreu chwilio cyn gynted ag yr agorwn fy llygad ar y byd. Ar ei hyd ar lawr y byddai, ac arhosai wrth ambell ddiferyn mwy na'i gilydd yn hir iawn, yn troi a throsi o'i amgylch gan alw sylw'r creadur bach yn y tu mewn ymhob modd oedd yn bosibl iddo. A phan godai ar ei draed yr oedd yn wlyb diferol.

Methai'r dyneddon â deall y llawenydd cudd hwn mewn un mor ddirmygus, ac a gyfrifid ganddynt heb fod mor gall ag eraill, a phenderfynasant wylio. Gwyliai rhywun ef trwy'r dydd, ond ni ddarganfuwyd cyfrinach ei wynfyd. Sylwasant o'r diwedd mai ar grwydr yr oedd ef bob dydd pan welent ef gyntaf, a phenderfynasant mai rhywbeth a gaffai yn y bore oedd cyfrinach y peth dieithr hwn a feddai. Arhosodd dau ar eu traed un noson gan wylio'n ddyfal y ddeilen y cysgai dani. Clywsant siffrwd yn nyfnder nos, ond ni welent ddim, ac er pob ymdrech i'w ddilyn, ei golli a wnaethant, ac