Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Tir y Dyneddon.djvu/106

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ni welsant ef nes ei ddyfod heibio liw dydd goleu, a'r hyfrydwch dieithr hwn yn fwy tanbaid nag erioed ar ei wynepryd. Bu fel hyn mor hir nes i'r dirmyg a'r gwawd ddiflannu ac i ryw ffyrnigrwydd a llid angherddol tuagato gymryd eu lle. Gwyliai mwy ei symudiadau o hyd, ond heb fod i ddim pwrpas,— llwyddai i guddio cyfrinach ei wynfyd o'u golwg oll. Eithr rhyw fore sylwodd un a wyliai mewn congl unig pan agorais fy llygad, ar Di yn disgyn ar ei hyd ar lawr bron yn ei ymyl, ac yn syllu y ffordd hon a'r ffordd arall. Yna'n dringo i ben glaswelltyn mawr ac edrych o'i amgylch â rhyw wynfyd yn ei lygaid a gywilyddiodd ei erlidiwr. Ymgripiodd ei wyliwr ymlaen ar ei draed a'i ddwylo onid oedd yn ei ymyl. Gymaint yr ymgollasai Di yn ei waith ag na chlywodd ef yn dyfod o gwbl. Aeth y dynan y tu ol iddo, a syllodd tros ei ysgwydd, ac er ei syndod beth a welai yn y diferyn gwlith oedd o flaen wyneb Di, ond wyneb fel un Di yn union, ac un yn edrych tros ei ysgwydd. Gwelodd Di y ddau wyneb. Meddyliodd i ddechreu fod dau greadur bach wedi dyfod yn gwmni iddo i'r diferyn hwn, ac ymhyfrydodd yn fwy. Ond wrth iddo ymhyfrydu, yr wyneb isaf o'r ddau a ymhyfrydai gydag ef, ac edrychai'r uchaf yn chwerw. Trodd ei lygad at ddiferyn arall yn ei ochr i edrych a oedd dau wyneb yn hwnnw hefyd, a gwelodd gysgod y dynan oedd y tu ol iddo yn gwylio'r cwbl. O!'r digalondid