RHAGAIR.
Nid myfi yw'r cyntaf o lawer iawn i grwydro i dir rhyw ddyneddon neu'i gilydd. Bu plant dynion yn eu gwlad ymhob oes, o ddyddiau duwiau bach y coed, heibio i ddyddiau'r Tylwyth Teg, i lawr i'n dyddiau ni.
Eithr tybiwn nad oedd hynny'n unrhyw rwystr i minnau fynd i dir y dyneddon neilltuol hyn a agorodd eu drws i mi, ac adrodd hanes fy ymweliad yn fy ffordd fy hun.
Dro 'n ol dechreuodd bachgen bach ar ei ysgol, ac ymhen ychydig ddyddiau daeth adref yn llawn o lythrennau'r wyddor. Gofynnwyd iddo fynd drostynt, a dechreuodd fel hyn—A am Alun, B am Beti, &c.
Ymhen ychydig wedyn gwelais ef yn chwarae â blociau a'r llythrennau arnynt, a sylwais fod y llythrennau iddo ef yn fodau byw, a fodau byw, a gwahaniaethau personol rhyngddynt â'i gilydd i'w feddwl plentynaidd. Sylwais wedi hynny fod plant, at ei gilydd, yn arfer personoli llythrennau'r wyddor. A dyna lle yr oedd y bachgennyn hwn yn gawr ymhlith y llythrennau, yn chwarae â hwynt.
Ymhen tipyn ar ol hynny holwn ŵr cyfarwydd am uchter un o drumau'r Berwyn. "O'i droed i'w ben" meddai, "y mae'n hyn a hyn." Sylwais hefyd fod cae o ŷd yn tyfu'n lled uchel ar y mynydd;