Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Tir y Dyneddon.djvu/111

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

iddo. Yr oedd yno erioed, a disgynnodd ar ei glust bob dydd a phob nos o'i oes, fel i bawb arall yn y fro. A dyna'r paham na chlywsai mohono—wedi ei fagu ynddo erioed yr ydoedd. Eithr pan ddarfu pob sŵn arall—y seiniau a ddeuai ac a âi—clywodd hwn yn glir. Ac iddo ef, y min nos hwnnw, yr oedd fel pe'n gwneuthur y wlad i gyd yn un gloch fawr, ac yntau'n crynu ar wefus y gloch honno. A'r sŵn oedd sŵn y rhaeadr ddagrau a lifai y tu ol i rew y deml. Ni bu ef yn y deml cyn amled ag eraill. Oni ddirmygid ef bob tro yr âi yno, am nad oedd ef fel addolwyr eraill? Ac onid cyff gwawd ydoedd yn ol a blaen yno? Yn y man aeth i adnabod y deml rew fel y lle y cyfarfyddai gwawdwyr a dirmygwyr ynddo i fwrw eu cynlluniau.

Hyfryd oedd miwsig y dwfr yn disgyn o ris i ris o'r rhew y min nos hwn, a phob gris â'i nodyn priod ei hun. A deuai cân ddofn, fawreddog, oddiyno, a ddeffrodd rywbeth ym mynwes Di na ddeffrowyd mohono erioed o'r blaen—rhywbeth mwy na hyd yn oed ef ei hun. Bu'n hoffi cydymdeimlad, a chafodd ef gan greaduriaid bach y deigryn, a'r gwlith, a'r dafnau glaw. Meddyliodd amdanynt heno, a theimlai, er y carai eu cydymdeimlad ag ef, mai rhy fach oeddynt i gymuno â'r peth hwn neu'r rhywun hwn a ymhyfrydai y tu mewn iddo yng nghân rhaeadr y deml rew. A disgyn ar ei glust a wnai'r gân fawreddog o hyd gan godi a gostwng