Tyfai o hyd, o hyd, a deuai'n harddach a mwy lluniaidd, ac mor wynfydedig nes magu gwên na welwyd mo'i thebyg ar wyneb dynan erioed. Hiraethai llawer un yn ddistaw am feddiannu gwên debyg i honno. Chwiliwyd llawer am ei chyfrinach, a dilynwyd Di yn ei holl deithiau, ond ofer fu'r cais am amser maith. Aeth yr hiraeth ar rai o dipyn i beth mor annioddefol nes troi'n gynddaredd mawr at Di, ac yn benderfyniad i ddwyn ei eiddo newydd oddiarno, costied a gostiai. Erlidiasant a phoenasant ef, ond cryfhau wnai ei wynfyd ef a'i harddwch o hyd, ac ni ellid ei ddolurio bellach. Ni wnai ergyd carreg ddim o'i hôl arno, ac ni allai llaid ei lychwino. Mynd yn harddach o hyd a wnai, mwy lluniaidd ei gorff, a hyfrytach ei wên. Erlidiwyd ef yn y nos a'r dydd. Taflwyd pethau ato yn y tywyllwch, ond pan dorrai'r wawr, yr un oedd ef o hyd, yn hardd a glân.
Daeth y brenin i sylwi ar Di, ac i gymryd diddordeb ynddo; a chynheuodd cynddaredd y rhai a ddisgwylient gael eu gwneuthur yn frenhinoedd wedi iddo ef farw, tuag at Di yn fwy fwy. Nid oedd dim i'w wneuthur ond ceisio dyfod o hyd i ffynhonnell ei wynfyd er pob aberth. Aethpwyd i'w wylio ddydd a nos, a gosodwyd dyneddon ymhobman. Llwyddodd yntau i'w guddio ei hun rhagddynt yn hir er hynny. Ond un bore, gwelodd dynan a ymguddiai o dan riniog y deml rew ef yn