gloch iâ yn dyfod allan ohoni pan ddinistriwyd hi, ac yn cerdded tuag at Di. Yr oedd yr un fath ag ef yn union, yr un ysgogiad, yr un harddwch, yr un llunieidd-dra, a'r un gwynfyd.
Troesant i edrych ar y ddau, eithr nid oedd ond un i'w weled. Pa un ai gŵr y gloch iâ, na ellid ei ladd, ynteu Di oedd, ni wyddent. Y gwir yw bod y ddau yno. A fuoch rywdro'n edrych ar ddau lun yr un fath yn union yn ochrau ei gilydd, trwy wydrau, a'u gweled heb fod yn ddim ond un? Felly yr oedd Di a'i gyfaill. Yr oedd y ddau yno. Crwydrent ynghyd i bobman—yn lluniaidd a hardd, a gwynfydedig ond y dyneddon heb fod yn gweled dim ond un. A chan na wyddent pa un ai Di ynteu ei gyfaill a welent ofnent ei gyffwrdd, canys daeth ofn mawr tros yr holl dir pan glywsant am gyfaill Di ei fod yn ŵr na ellid ei ladd.
Aros wnaeth Di ar hyd ei oes yng nghwmni ei gyfaill o'r gloch iâ ar bwys y deml, a'r dyneddon yn ei ofni'n fwy-fwy, fel y syllent ar ei harddwch, a'i lunieidd-dra a'i wynfyd. Ac atgoffai'r rhwyg yn y deml rew hwy o hyd am eu hymdrech i ladd ei gyfaill, y gŵr na ellid ei ladd. Rhwyg hefyd na ellid ei gyfannu oedd hwnnw a wnaed yn y deml. A chofia'r dyneddon trwy'r oesoedd hyd heddyw, wrth weled y rhwyg, mai gŵr na ellid ei ladd oedd y cyfaill a gafodd Di.