Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Tir y Dyneddon.djvu/119

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

NID oedd canrif i'r dyneddon ond llai nag un dydd i mi,―y mynydd mawr. Gwyliwn genedlaethau'n mynd heibio megis mewn darn diwrnod, ac yr oedd oesoedd lawer o'u hamser hwy er pan ddeuthum i'r wlad, a hyd yn oed y traddodiad am fy nyfod wedi diflannu.

A chyhyd y bum yno nes imi fynd i gyfrif amser yn ol eu calendr hwy, ac anghofio ddarfod trigo ohonof erioed yn ein byd ni. Anghofiais fy machgendod yn lân, a thybiwn mai mynydd oeddwn mewn gwirionedd. Fel y gwelsoch ambell fachgen wrth chwarae ceffyl yn anghofio mai bachgen oedd, ac yn teimlo'n hollol fel ceffyl, arferaswn innau fod yn fynydd cyhyd nes teimlo yn hollol fel mynydd, ac anghofiais fod y dyneddon mor ryfeddol o fach. Croesâwn yr eira pan guddiai fi fel y croesawir ef gan fynydd, a'r unig deimlad a'm gorchfygai oedd pa mor hardd yr edrychwn yn fy ngwisg wen.

Bum yno'n ddigon hir i weled newid hinsawdd y wlad. Clywsoch yr hen bobl yn dywedyd lawer tro fod eira mwy yn y gaeaf, a dyddiau mwy hafaidd