yn yr haf, yn eu plentyndod hwy, nag sydd heddyw. Camgymryd y maent. Nid yw trigain mlynedd, wedi'r cwbl, yn ddigon inni weled eu dylanwad ar yr hinsawdd. Ac nid oedd trigain mlynedd i'r dyneddon, hwythau, yn ddim, cyn belled ag yr âi'r hinsawdd. Eithr amdanaf i, y mynydd mawr, nid oedd eu trigain mlynedd hwy ond megis darn diwrnod imi; ac wedi byw ganrifoedd a chanrifoedd yno, ni theimlais fy mod wedi heneiddio dim. Yr unig un o deimladau fy machgendod a lynodd wrthyf oedd y teimlad o ieuengrwydd. Er trigo cymaint yn y wlad ni theimlais ddylanwadu o'r blynyddoedd ddim arnaf; ac er mai mynydd hen iawn oeddwn i'r dyneddon, teimlo'n ieuanc a wnawn i,—yn ieuengach na'r dynan ieuengaf yno, gan y gwyddwn y byddai ef yn hen, ac wedi hir farw, cyn imi ymarfer â'i fod.
Er hynny, bum innau'n ddigon hir yn y wlad i deimlo cyfnewidiad. O ganrif i ganrif cynhesai'r hinsawdd yn raddol, ac o dipyn i beth gwelwn y deml rew'n lleihau. Ni sylwodd y dyneddon ar hynny am rai o'u hoesoedd hwy, ond gwyddwn i mai mynd lai-lai a wnai.
Un diwrnod sylwodd dynan ar ddarn o graig, fod ôl rhew yno mewn lle nad oedd y rhew erbyn hyn yn ei gyrraedd o lawer, a haerodd mai lleihau yr oedd y deml. Eithr y fath oedd cri'r anghredadun nes iddo gadw ei syniad iddo ei hun. Ymhen