Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Tir y Dyneddon.djvu/121

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

oes neu ddwy wedyn dywedodd un arall yr un peth, a bu bron iddo yntau gael ei ladd gan lid y lliaws. Mewn oes neu ddwy wedyn sylwyd fod un o'r adenydd hanner agor oedd i angylion ymyl y deml, yn llai na'r llall, nes gwneuthur yr olwg arno braidd yn chwerthinllyd. Canys nid yw angel yn hardd oni bydd yn gymhesur. Ac o dipyn i beth aeth yr angel hwnnw a'r angylion oll yn eu tro yn gyff gwawd y di-râs. Wedi anghofio'r helynt hwn gan oesoedd dyfodol, disgynnodd darn o'r wisg wen a guddiai wyneb un o'r saint gweddigar, cerfiedig, un diwrnod, a gwelwyd mai draenen oedd oddi— tanodd, mai eira wedi rhewi dros gangen ddraenen oedd y cerfwaith prydferth i gyd—a chollodd y di-râs eu ffydd o hynny allan mewn saint.

Erbyn hyn credai eraill mai lleihau yr oedd y deml, ac ofnai llawer fynd iddi. Eithr parhai rhai ymhob oes am oesoedd wedi dechreu'r meiriol i gredu nad oedd dim cyfnewidiad. Ond fel y disgynnai darn ar ol darn, bu raid credu nad oedd pethau megis cynt. Daeth galar dwys tros y rhai yr ymlynai eu calonnau fwyaf wrth y deml, ac edrychent i'r dyfodol mewn ofn tywyll, du.

Credai'r anghredadun erbyn hyn mai diogelach fuasai tynnu'r deml i lawr, nad oedd hi'n ddim ond perygl, ac ar y goreu yn ddim ond addurn hen oesoedd; a cheisiai eraill daro ar gynllun i'w hatgyweirio. A minnau'n gwylio ac yn gwybod nad oedd