Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Tir y Dyneddon.djvu/122

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

raid i'r un ochr bryderu—nad oedd raid ei thynnu i lawr, y meiriolai ohoni ei hun yn llwyr yn ei thro; ac er iddi fynd, na leihai colli'r deml ddim ar y ffrwd a roddodd fod iddi. Bu'n gyfyng ar y dyneddon lawer tro am ddwfr i'w yfed, gan ei fod ar ambell adeg bron i gyd wedi rhewi'n deml, ond cynhyddu a wnai'r dwfr o oes i oes fel y lleihai'r deml. A'r dwfr a lifai odditani oedd ffynhonnell y wlad. Deuai'r dyneddon o bell ac agos ati, a digonid hwynt.

Sylwn hefyd, o dipyn i beth, fel y toddai'r deml, y meiriolai'r eira a'r barrug ar fy ysgwyddau a'm llethrau i, ac yr âi hwnnw hefyd yn llai o genhedlaeth i genhedlaeth. Un diwrnod daeth darn mawr o biler y deml i lawr a chrynodd y wlad dan y codwm, a thyrrodd dyneddon o bell ac agos yno. Afluniaidd iawn oedd y deml wedi hyn,—wedi methu ohoni ddal ei phwysau ei hun—ac eithriad oedd i neb fynd yn agos ati. Ciliasai'r hen gwynfanwyr, a'i cofiai hi ar ei goreu, oll o'r byd, a chodasai oes na wyddai am ei gogoniant,—dim ond ei chofio'n hanner parchus, hanner dirmygedig a wnaent. Aeth pigyn i'm calon innau wrth weled yr harddwch yr arferaswn gymaint ag ef yn diflannu, yn enwedig gan mai teml a ffurfiwyd o'm dagrau ydoedd. Cysur imi er hynny lawer tro yn y galar cudd yn fy mynwes, o golli'r deml, oedd ddarfod iddi am lawer oes fod yn gysgod cysegredig i ddyneddon, ac yn gysur di-drai iddynt.