Daeth dyneddon o bell i weled ôl y gyflafan, dyneddon a ddeuai yno am eu dwfr i'w yfed, ac a gwynai fod yn rhaid mynd mor bell amdano, canys dyma unig ffynhonnell ddwfr y wlad. Tyrrai y rhai hyn o'u bodd i weld y gyflafan.
Gwyddwn i nad y deml yn unig a leihai, ond y lleihai'r eira hefyd, ac y gwelai'r dyneddon ffrydiau eraill cyn bo hir i'w digoni. Aeth cenhedlaeth heibio, â'r dyneddon wedi dysgu dygymod â'r darn teml a'r ffrwd gynhyddol. Un diwrnod daeth cri trwy'r wlad am ddarganfyddiad mawr,— fod ffrwd arall mewn ochr arall i'r mynydd, cyn gryfed a ffrwd y deml rew. Aethpwyd yno, a dyna lle yr oedd ffynnon loyw yn byrlymu wrth fy ngodre i ddyneddon y rhanbarth hwnnw gael dwfr. A thorrai rhyw ffrwd newydd allan ohonof ymhob oes. Fel y pellhai'r traddodiad am ddarganfod un ffynnon, darganfyddid ffynnon newydd.
Torrai'r ffynhonnau hyn allan yn gyflym iawn ar ol ei gilydd i'm profiad i, ond yr oedd cenedlaethau rhyngddynt i'r dyneddon. Ymfalchïent ffynnon newydd, a rhuthrent i'w gweled, ac o dipyn i beth ymarferent â hi. A'r oes nesaf wedi hen ymarfer â hi, teimlai nad oedd digon o ddwfr wedyn yn y wlad, bod angen ffynnon mewn, rhanbarth arall. A phan fyddai'r teimlad yn angherddol, torrai ffynnon allan. Ac felly y bu o oes i oes, nes i'r deml rew doddi'n lân ac i'w ffrwd fynd yn ffrwd gyffredin