Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Tir y Dyneddon.djvu/126

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

lesmeiriol nes i arfau gwaith rhai, llestri dwfr eraill, a phob offeryn arall, ddisgyn o'u dwylo dan ei gyfaredd. Swynwyd pob un tuag at y canu heb yn wybod iddo ei hun nac i neb arall. Tyrrai'r dyneddon o bobman o'm cymoedd i, ac o'r gwastadeddau, ac o gysgodion mynyddoedd eraill, tuag at y canu, a phob un wedi ei swyno'n lân ganddo,—yn mynd tros greigiau a chorsydd a diffeithleoedd heb deimlo na blinder na dim.

Ac mewn dyffryn rhyngof i a mynydd arall safodd y dyrfa, tyrfa na allai neb ei rhifo. O dan gysgod math ar ywen fawr ar fin llyn o ddwfr, eisteddai un o'r bodau tlysaf a welwyd erioed â thelyn yn ei law. Chwifiai ei wallt yn yr awel gan ddisgleirio fel pelydrau yng ngoleu'r haul, a fflamiai ei lygaid dan gyfaredd ei ganu ei hun. Symudodd y dorf fel un gŵr i ddawnsio dan ddylanwad y canu, a dawnsio y bu yn ddiflino am nas gwn i pa hyd. Dawnsio yr oedd pan gaeais fy llygad yr hwyr hwnnw. Clywn gynnwrf y dawnsio wedi i mi ei gau, a dawnsio yr oedd bore drannoeth, ac felly am ddyddiau, heb flinder na lludded.

O'r diwedd peidiodd y canu, a llonyddodd pawb. Dechreuasant siarad ynghylch y telynor, ac yntau'n gwrando, yn un bach hyd yn oed ymhlith dyneddon. Trodd at ei delyn a gorffennodd blethu tant newydd iddi. Tynhaodd y tant a chyffyrddodd ag ef â'i fys. Tynhaodd ef fwyfwy, a chyffyrddodd