Tyrd eto," ebe'r telynor, ac at ffrwd arall â hwy, tarawodd y telynor dant arall, a gofynnodd i'r tywysog a glywodd ei debyg. Dywedodd yntau, "Naddo." "Gwrando ar y ffrwd," eb ef, ac wedi gwrando clywodd pawb nodyn y tant newydd yn y ffrwd, a gwelsant mai nodyn a fu'n canu'n hyfryd yn eu mysg erioed oedd y nodyn hyfryd yn y delyn.
"Tyrd eto," ebe'r telynor, ac i ffwrdd â hwy drachefn. Wedi cerdded ymhell, cododd ei law ar i'r dyneddon sefyll. Tarawodd dant arall, a gofynnodd i'r tywysog a glywsai ei debyg. "Naddo erioed," eb ef, neu ni buasai'n bosibl i'n bywyd fod yn faich arnom." "Edrych yma," ebe'r telynor, a gwrando."
Wrth flaen troed y tywysog, ar fin cael ei fathru ganddo, yr oedd llygad dydd yn tyfu. "Oni chlywi ef yn tyfu? " ebe'r telynor. Ac wedi gwrando'n hir, a rhoddi eu bryd arno, daeth nodyn hyfryd o fynwes y llygad dydd na chlybuwyd ei hyfrytach erioed, a'r nodyn hwnnw oedd nodyn trydydd tant telyn y telynor.
Aeth y telynor â'r dyrfa o ffrwd i ffrwd ac o flodyn i flodyn, ac nid oedd y ffrwd a gynhyrchodd y deml rew gynt erbyn hyn ond un gyffredin ymysg eraill, yn cyfrannu ei nodyn ei hun i'r gân. Tynnodd y telynor yng ngwydd y dyneddon nodyn o belydrau'r sêr, a'r diferion niwl, ac o lu o bethau eraill. Tarawodd