Eisteddais i lawr wedi blino. Hwyrach fod yr ymdrech i ddyfod drwy'r twll yn fwy nag y meddyliais, ac wedi eistedd cefais hamdden i edrych oddiamgylch. Erbyn hyn, nid oedd raid imi ddal y darn rhew rhyfedd wrth fy llygad, canys glynasai yno'n ddidrafferth ohono ei hun. Er syllu fy ngoreu, y cwbl y medrwn ei weled oedd rhywbeth rhwng niwl a dim. Tybiwn fod rhyw wibio mawr yn fy ymyl, ond ni welwn ddim heblaw rhywbeth tebyg i adenydd olwyn ceffyl haearn pan fo'n rhuthro heibio i chwi,—gwyddoch nad oes dim i'w weled ohonynt ond y symud. Yn sydyn, dechreuodd rhan o'r symud yma arafu, nes imi fedru gweled rhyw ysmotyn tywyll yn ei ganol. Arafodd hwnnw'n llwyr yn y man, a pheth a welwn yn sefyll yn syth o'm blaen yn edrych arnaf mewn syndod ond y creadur bach rhyfeddaf a welsoch erioed. Rhyw fodfedd oedd ei daldra. Yr oedd ei gorff yn hir o'i faint, a'i goesau'n fyr, a'i ben yn hollol grwn, ei lygaid yn fawr a llydan, ac am ei glustiau rhaid oedd i chwi syllu'n hir cyn medru dychmygu bod ganddo rai o gwbl. Golwg ieuanc iawn oedd iddo, fel golwg bachgen bychan bach. Edrychodd arnaf am ysbaid wedi ei syfrdanu, yna dechreuodd ddringo un o'm hesgidiau o hoelen i hoelen, a minnau'n hollol lonydd. Wedi dringo rhyw bedair hoelen, cwympodd. Neidiodd ar ei draed yn ei ol, a diflannodd yn hollol ar darawiad amrant, neu yn llawer cynt na hynny,
Tudalen:Tir y Dyneddon.djvu/20
Gwedd