fel y gwelir ymhellach ymlaen. Ymddangosodd wedyn ymhen eiliad neu ddau, ac un arall tebyg iddo gydag ef.
Dechreuodd y ddau ddringo fy nhraed, ac archwilio f' esgidiau. Gwelwn oddiwrth eu geneuau, fel y symudent, eu bod yn siarad â'i gilydd, ond ni chlywn air. Ar hyn teimlwn y rhew ar fy llygad fel buasai ar ddechreu toddi, a rhoddais fy mys arno, ac yr oedd fy mys yn llaith pan dynnais ef ymaith. Ymhen tipyn teimlwn fy nghlust yn ysu, a chrefais hi â'm bys llaith. Yn hollol sydyn clywn y ddau greadur bach hyn yn siarad:
Be ydi o, dywed?" ebe un, a minnau heb symud migwrn.
"Mynydd," ebe'r llall.
"Weles i mono fo o'r blaen," ebe'r cyntaf.
"Na finne," ebe'r llall.
"Rhaid mai wedi disgyn o rywle y mae o," ebe'r naill.
"Hwyrach, wir," ebe'r llall," ond mae o'n edrych yn rhyfedd. Weli di ei dop o? wela i ddim."
"Nage, nage," ebe fi, "nid mynydd."
Eithr nid cynt yr agorais fy ngenau nag y disgynnodd y ddau ar eu hyd gan wasgu eu dwylo ar eu clustiau â'u holl nerth. Ac ni ddychrynodd neb fwy wrth fy llais na mi fy hun. Yr oedd fel deng mil o daranau yn seinio ynghyd. Cymaint oedd fy mraw nes i'm corn gwddf sychu fel corsen, ond nid oedd dwfr yn unman i mi gael llymaid,—dim ond diferyn neu