ddau oddiwrth y darn rhew a lynai wrth fy llygad. Rhwbiais fy mys arno a sipiais ef. Edrychais ar y ddau greadur bach ar lawr heb ddywedyd dim. Yn y tawelwch codasant. Edrychasant oddiamgylch yn frawychus, a dywedodd y naill wrth y llall:
"Glywest ti'r fath drane yn dy oes?"
Anturiais siarad wedyn, ar ol sipian fy mys, i edrych beth a wnaent dan sŵn aruthrol fy llais, ond prin yr adwaenwn fy hun pan glywais fy hun yn siarad. Siaradwn yr un fath yn union â hwy, heb fod fymryn yn uwch, ar ol sipian o'r darn rhew rhyfedd. Clywswn ryw sŵn dieithr o'm hamgylch ers meityn, er pan grefais fy nghlust â'm bys llaith, a gofynnais i'r ddau beth ydoedd. Codasant ar flaenau eu traed, ac edrychasant ar ei gilydd yn syn:
"Mynydd yn siarad!" ebe un.
"Be ddeydodd o!" ebe'r llall, dan ei lais.
"Gofyn ynghylch rhyw sŵn rhyfedd," ebe'r cyntaf. Chlywa i ddim sŵn ond y glaswellt yn tyfu," ebe'r llall.
Disgynnodd sŵn arall ar fy nghlyw fel sŵn ceffyl gwedd yn cerdded:
"Be ydi'r sŵn cerdded ene?" ebe fi, canys ni welwn geffyl yn unman,
"Dene'r mynydd yn siarad eto," ebe'r ddau ynghyd gan edrych ar ei gilydd mewn braw, a gwelwi tros eu hwynebau.
"Be ddeydodd o?" ebe un yn y man.