Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Tir y Dyneddon.djvu/23

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Gofyn be oedd y sŵn cerdded," ebe'r llall.

"Chlywa i ddim ond y gwybedyn," ebe'r cyntaf. Erbyn sylwi, gwybedyn ydoedd. Bum yn dyfalu lawer gwaith erioed i ble yr âi'r gwybed yn y gaeaf. Dyma fi o'r diwedd wedi dyfod ar eu traws, a gwnai hwn sŵn cerdded fel sŵn ceffyl gwedd yn union. Dechreuais grafu fy mhen mewn petruster. "Dyma wlad ryfedd," ebe fi wrthyf fy hun,— gwlad lle clywir y glaswellt yn tyfu, a gwybed yn cerdded fel ceffylau, a llais dyn yn uwch na tharanau, mor uchel nes bod bron yn ddigon mawr i fyddaru." Ar hyn dyna fiwsig mawr, ardderchog, yn disgyn yn sydyn ar fy nghlust. Chwiliais amdano fy hun rhag ofn dychrynu'r ddau greadur bach, a sylwais mai corsennau mân, bron yn anweledig, ar lan afon fawr a ruthrai heibio yn ymyl, oedd yn ysgwyd yn y gwynt. Yr oedd corsennau mawr yn ysgwyd, ond ni ddeuai sŵn oddiwrthynt hwy, ac yr oedd yr afon, hithau, yn rhuthro heibio'n hollol dawel, er bod ei sŵn yn fy arswydo cyn imi grafu fy nghlust â'm bys a leithiwyd gan y darn rhew. Rhaid oedd credu bod ei sŵn, erbyn hyn, a sŵn y corsennau mawr, yn rhy uchel i'w glywed.

"Wel, wel," meddwn wrthyf fy hun eilwaith, dyma'r wlad ryfeddaf y bum ynddi erioed—llais dyn yn uwch na tharanau, yr afon yn rhuo'n rhy uchel i'w chlywed, ac felly'r corsennau mawr; y glaswellt i'w clywed yn tyfu, corsennau, bron yn