ac aethant ar eu gliniau o'm hamgylch, a chlywn hwy'n dywedyd:
"Mynydd yn siarad!—ymhle y mae'r brenin?"
Daliasant lygoden fach, un fach iawn. Llusgodd hanner dwsin ohonynt hi at y tân, lladdasant hi, a gosodasant hi arno.
"Aberthu i'r mynydd," ebe un.
"Mynydd yn siarad," sibrydai pawb wrth ei gilydd. Dacw ddau haul ar ei dop, un bychan ac un mawr," ebe rhywun dan edrych i fyny, "dacw'r bychan yn diffodd!"'
Yr adeg hon y caeodd fy llygad a welai dywyllwch, yn llwyr. Digwyddais gau'r llygad rhew, a gwaeddodd pawb yn syth:
"Dene'r haul arall wedi diffodd!"
Agorais fy llygad drachefn:
"Na, yn goleuo eto!" ebe hwy i gyd, gan ddawnsio o amgylch y tân.
"Greaduriaid bach," ebe fi, "pa bobol ydech chi?"
Edrychodd pawb yn syn ar ei gilydd. O'r diwedd daeth un ohonynt oedd â'i wàr yn crymu a'i wallt yn wyn, â thipyn o'r tân ar damaid bach, bach o garreg, a dywedyd tan grymu ei ben:
"Dyneddon ydym ni, fynydd sy'n llefaru, ac yn gwneud i'r heuliau oleuo a diffodd bob yn ail. Ers dyddiau yr ydym yma yn aros am dy lais, ond nid yw'n amser dewis brenin eto."