gneud brenin, a minne wedi medru profi mai fi oedd y cynta yn ei glywed o, buaswn yn mynd yn frenin hefyd."
"Wyt ti'n credu fod rhywbeth yn y traddodiad, dywed?" ebe'r naill.
"Pa draddodiad?" ebe'r llall, tan besychu.
"Y traddodiad mai'r un a fedr neud i'r mynydd yma siarad sydd i gael mynd yn frenin," ebe'r naill.
"Mae'n bwysig bod yn siwr," ebe'r llall, "achos fydd yr hen frenin ddim byw yn hir eto."
Teimlwn fy llygad eisiau cau er fy ngwaethaf, a gwelwn y ddau'n codi, ac un yn dywedyd wrth y llall,—"mae hi'n mynd yn hwyr, gwell inni gychwyn."
Rhyfeddais at ymgom y ddau, am na welwn arwyddion o hwyr, oherwydd hwyr oedd hi o hyd. Ni ddiflannodd y sêr er pan oeddwn yno. Yn sydyn caeodd fy llygad.
"Wel, wel," ebe un ohonynt, "mae hi cyn dwlled a'r fagddu, sut yr awn ni dywed?"
Ar hyn gwawriodd syniad arnaf,—mai fy llygad rhew oedd eu haul hwy, ac mai'r ychydig a barhai yn agored oedd eu dydd, ac mai'r amrant yn cau oedd eu nos. Meddyliwch, mewn gwirionedd, am greaduriaid sy'n byw mor gyflym nes bod yr amser y deil eich llygaid yn agored rhwng dau darawiad amrant yn ddiwrnod cyfan iddynt, a'r adeg yr erys y llygad ynghau rhwng dau agor yn nos iddynt. Wedi'r